British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Mawrth, 8 Chwefror 2011, 13:34 GMT
Rolf yn dilyn arddull pedwar artist

Rolf Harries yn yng ngorsaf trn bach yr Wyddfa
Bu Rolf Harris ar daith drwy Gymru tra'n gwneud y rhaglen

Mae pump o baentiadau newydd sbon yr arlunydd a'r perfformiwr Rolf Harris yn cael eu dangos yng Nghymru.

Mae'r lluniau'n adlewyrchu ei ymgais i greu gweithiau yn arddull pedwar o artistiad â chysylltiad â Cymru - Syr Kyffin Williams, Graham Sutherland, Josef Herman a Shani Rhys James.

Crëwyd y lluniau ar gyfer cyfres gelf BBC Cymru o'r enw Rolf on Welsh Art.

Ymysg y lluniau mae portread o dad y canwr opera Bryn Terfel, Hefin Jones, sydd i'w weld yn Oriel Ynys Môn, Llangefni.

Teyrnged ei hun

Ym mhob pennod mae Rolf, sydd o dras Gymreig ar ochr ei dad, yn ymweld â chynefin yr artistiaid a chlywed amdanyn nhw a'u gwaith gan deuluoedd, ffrindiau ac arbenigwyr, a chreu ei deyrnged ei hun iddyn nhw yn seiliedig ar yr hyn mae'n ei ddysgu.

ORIELAU 'TAITH' ROLF

Oriel Ynys Môn, Llangefni, Chwefror 4 ymlaen
Oriel Glynn Vivian, Abertawe, Chwefror 7 ymlaen
Oriel y Parc, Tŷ Ddewi, Chwefror 11 ymlaen
Amgueddfa Genedlaethol, Caerdydd, Chwefror 16 ymlaen.

Ymysg y dulliau newydd y bydd yn eu dysgu mae'r dull a ddefnyddiodd i greu'r portread olew o Hefin Jones, paentio gyda chyllell palette i greu effaith paent trwchus nodweddiadol Syr Kyffin.

Dywedodd Rolf mai paentio Hefin Jones oedd un o uchafbwyntiau eu daith.

"Fe lwyddais i wneud y darlun yn debyg iawn iddo ond roedd ymhell o fod mor dda â'r nifer o botreadau a wnaeth Kyffin gyda chyllell palette o gynifer o bobl Cymru," meddai.

"Po fwyaf roeddwn i'n paentio neu'n ceisio paentio yn ei arddull o, po fwyaf roeddwn i'n sylweddoli pa mor athrylithgar oedd o, mor anhygoel o dda."

Bu Rolf hefyd yn defnyddio drych llaw i greu portread yn null Shani Rhys James ac yn dewis gwrthrychau o arfordir Sir Benfro er mwyn creu ei ddehongliad o waith Graham Sutherland.

Glowyr

Rolf Harries yn paentio Hefin Jones
Cafodd y ffermwr Hefin Jones ei bortreadu yn arddull Kyffin Williams

Mae pob oriel yn dangos y llun gwreiddiol sydd â'r cysylltiad amlycaf a'r ardal a bydd atgynhyrchiadau yn cael eu harddangos yn rhai o'r lleill.

Bydd Oriel Glynn Vivian yn Abertawe, er enghraifft, yn dangos dau o luniau gwreiddiol Rolf yn arddull Josef Herman a fu'n byw yn Ystradgynlais am 11 mlynedd.

Daeth yn enwog oherwydd ei bortreadau o lowyr Cymru a châi ei adnabod yn lleol fel "Joe Bach".

Mae BBC Cymru wedi cydweithio â'r pedair canolfan er mwyn dangos gwaith Rolf i gynulleidfaoedd Cymru.

Bydd y gyfres yn dechrau ar BBC Un Cymru, ddydd Mercher, Chwefror 16, am 7.30pm.



HEFYD
Cofnod Kyffin o'r Wladfa i'w weld
05 Chwef 11 |  Newyddion
Rolf Harris yn agor arddangosfa
05 Chwef 10 |  Newyddion
Agor oriel 1.5m i Syr Kyffin
18 Gorff 08 |  Newyddion


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific