British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Mawrth, 8 Chwefror 2011, 06:44 GMT
'Llai o alw am dai gan brynwyr'

Tai (generic)
Mae'r gwerthwyr yn dal yn hyblyg

Digon marwaidd oedd y farchnad dai yng Nghymru yn ystod mis Ionawr yn ôl y ffigyrau diweddaraf gan Sefydliad y Syrfëwyr Siartredig.

Roedd 'na lai hefyd o ymholiadau gan brynwyr newydd ond roedd 'na fwy o gyfarwyddiadau newydd gan werthwyr yn ystod y mis o'i gymharu â mis Rhagfyr.

Yn ôl y ffigyrau roedd prynwyr tai yn poeni am gynnydd mewn morgeisi yn ddiweddarach yn y flwyddyn.

Mae'r arolwg yn nodi mai gan Gymru mae'r nifer isa' o dai gafodd eu gwerthu yn y DU.

'Ansicrwydd'

"Mae ansicrwydd am gyflogaeth yn ogystal â diffyg morgeisi yn pwyso'n drwm ar y farchnad dai yng Nghymru," meddai llefarydd ar ran y Sefydliad yng Nghymru, Tony Filice.

"Er hynny, mae 'na rywfaint o gynnydd wedi bod o ran cyfarwyddiadau gan werthwyr nag yn y tri mis blaenorol, yn unol â'r hyn y byddwn yn ei ddisgwyl ym mis Ionawr

"Mae gwerthwyr yn dal yn hyblyg, sy'n golygu bod 'na bobl yn gwerthu, ar lefelau rhesymol," ychwanegodd y gŵr sydd hefyd yn gyfarwyddwr cwmni syrfëwr siartredig Kelvin Francis.

Yn ôl yr ystadegau diweddaraf gafodd eu cyhoeddi ddydd Mawrth, mae 18% yn fwy o syrfëwr wedi nodi bod 'na ostyngiad yn y galw am dai.

Ond bod 'na 54% wedi gweld cyfarwyddiadau newydd nag ym mis Rhagfyr.



HEFYD
Tai: '2011 yn wael ond yna twf'
21 Rhag 10 |  Newyddion
Y farchnad dai yn dal yn 'swrth'
09 Tach 10 |  Newyddion


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific