British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Llun, 7 Chwefror 2011, 13:08 GMT
Gwynt: Swyddfa llywodraeth yn cau

Swyddfa Llywodraeth y Cynulliad yng Nghyffordd Llandudno
Agorwyd yr adeilad ym mis Medi 2010

Mae adeilad newydd Llywodraeth y Cynulliad yng Nghyffordd Llandudno wedi gorfod cau oherwydd gwyntoedd cryf ac mae'r staff i gyd wedi cael eu danfon adre.

Cafodd yr adeilad - sy'n werth £20 miliwn - ei agor yn swyddogol ym mis Medi ac mae lle ynddo i 650 o staff.

Mewn datganiad amser cinio ddydd Llun dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth y Cynulliad: "Fe wnaed y penderfyniad i gau adeilad Cyffordd Llandudno er mwyn sicrhau diogelwch staff ac ymwelwyr.

"Oherwydd gwyntoedd eithriadol o gryf dros nos a bore Llun mae gorchuddion metel wedi dod yn rhydd o'r to ac mae'r swyddfa wedi ei chau rhag ofn.

"Bydd contractwyr yn asesu'r difrod cyn gynted ag y bydd yn ddiogel wneud hynny, ac fe fyddwn yn cyhoeddi mwy o fanylion bryd hynny.

"Fe wnaed pob ymdrech i gysylltu â'r staff fel nad oedd rhaid iddyn nhw deithio i mewn i'r gwaith.

"Mae llawer ohonynt yn medru gweithio o adre drwy ddefnyddio gliniadur neu ffonau blackberry.

"Mae tua 400 o bobl yn gweithio yn yr adeilad, ond ni fyddai bob yn bresennol y bore 'ma.

"Rydym yn disgwyl medru ailagor yr adeilad yfory."



HEFYD
Agor swyddfeydd gwerth £20m
23 Medi 10 |  Newyddion


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific