Gofynnodd Gethin iddi ei briodi ar ddiwedd gwyliau ym Mecsico
|
Mae'r gantores Katherine Jenkins wedi cadarnhau ar ei gwefan ei bod wedi dyweddïo gyda'r cyflwynydd teledu Gethin Jones. Roedd hi'n ymateb wedi i sibrydion ymddangos mewn rhai papurau newydd dros y penwythnos. Mewn neges ar y wefan, dywedodd y gantores o Abertawe fod Gethin wedi gofyn iddi ei briodi ar ddiwedd gwyliau ger arfordir Mecsico. Ychwanegodd nad oedd y ddau wedi pennu dyddiad ar gyfer y briodas hyd yma, ond y byddai'n digwydd rhywdro'r flwyddyn nesaf. Diolchodd i bawb oedd eisoes wedi gyrru negeseuon i'w llongyfarch.
|