Roedd gan Batagonia gryn ddylanwad ar Kyffin Williams
|
Mae arddangosfa o waith Syr Kyffin Williams ar Batagonia yn dechrau ddydd Sadwrn. Yn 1968 cafodd yr arlunydd Ysgoloriaeth Churchill i fynd i Batagonia lle y bwriadai gofnodi'r bobol a'r wlad. Cafodd yr arddangosfa yn Oriel Môn ei hagor yn swyddogol nos Wener gan frodor o Batagonia, Elvey MacDonald. Daw gweithiau'r arddangosfa o gasgliad yr Oriel, casgliadau preifat a chenedlaethol yn cynnwys canran fawr gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru. Ceir casgliad o weithiau pensil, inc, dyfrlliw ac olew yn amrywio o baentiadau a gweithiau mawr ar bapur i sgetys bach. Eitemau personol Mae cyfle i weld rhai o'r ffotograffau a dynnwyd gan Kyffin ar ei gamera personol o gymeriadau'r Wladfa. Bydd yr arddangosfa hefyd yn cynnwys rhai o eitemau personol Kyffin o'i ymweliad fel, teithlyfr, cerdyn glanio, a dau o docynnau cwmni hedfan 'Aeroineas Argentinas' ymysg pethau eraill.
Gadawodd Syr Kyffin Williams ran helaeth o'i ystâd i Lyfrgell Genedlaethol Cymru.
|
Dywedodd deilydd portffolio Datblygu Economaidd, Twristiaeth a Hamdden, Cyngor Sir Ynys Môn, y Cyng Bob Parry: "Rydym yn hynod ddiolchgar i bawb, ac yn arbennig i Lyfrgell Genedlaethol Cymru, sydd wedi ein cynorthwyo i greu arddangosfa sy'n cofnodi'r amser a ddyweddod Kyffin oedd y mwyaf cyffrous a chofiadwy o'i fywyd." Pan fu farw ym Medi 2006, gadawodd Syr Kyffin Williams ran helaeth o'i ystâd i Lyfrgell Genedlaethol Cymru. Yng Ngwanwyn 2008 sefydlwyd Prosiect Cymynrodd Kyffin Williams gan y Llyfrgell. Dechreuwyd ar y gwaith o gatalogio'r gweithiau celf a'r archifau yn ystod Haf 2008 a chychwynnwyd ar raglen ddigido ddechrau Haf 2009. Un elfen amlwg o Brosiect Cymynrodd Kyffin yw Blog Kyffin. Bwriad y blog hwn yw darparu'r wybodaeth ddiweddaraf ynglŷn â'r catalogio ac agweddau eraill o'r prosiect, yn ogystal â chyfeirio at ambell eitem ddiddorol a ddaw i'r golwg wrth gatalogio. Dywedodd Andrew Green, Llyfrgellydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru: 'Mae'n fraint gan y Llyfrgell Genedlaethol i gydweithio ag Oriel Ynys Môn ar yr arddangosfa arbennig hon o waith Syr Kyffin Williams, ac edrychwn ymlaen at gael cydweithio ar brosiectau cyffelyb yn y dyfodol agos.' Bydd yr arddangosfa i'w gweld tan Fedi 4 2011.
|