British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Sul, 6 Chwefror 2011, 15:15 GMT
Ynys: Ail-gyflwyno gwiwerod

Ynys Bŷr
Mae'r ynys fechan ddwy filltir a hanner i ffwrdd o'r arfordir

Mae mynachod yn gobeithio ail-gyflwyno gwiwerod coch i Ynys Bŷr oddi ar arfordir Sir Benfro.

Mae gweinidogion llywodraeth Prydain wedi cefnogi'r cynlluniau ar ôl clywed amdanyn nhw gan yr aelod seneddol lleol, Simon Hart.

Dros y blynyddoedd diwethaf mae niferoedd gwiwerod coch wedi gostwng yn sgil cystadleuaeth gan wiwerod llwyd.

Erbyn hyn dim ond mewn llond llaw o safleoedd y mae'n bosibl dod o hyd i wiwerod coch yng Nghymru.

Mae Ynys Bŷr yn gartref i gymuned fach o fynachod sy'n ffermio'r tir.

"Perffaith"

Yn ôl Aelod Seneddol Gorllewin Caerfyrddin a De Penfro mae'r safle'n "berffaith" ar gyfer y cynllun.

Mewn cyfweliad â BBC Cymru, dywedodd Mr Hart bod yr abaty'n "cynnal fferm sy'n gofalu am yr amgylchedd.

"Does yna ddim ysglyfaethwyr yno - does yna ddim gwiwerod llwyd na llwynogod a dydy'r anawsterau sy'n bodoli mewn ardaloedd eraill ble mae pobl yn ceisio ail-gyflwyno gwiwerod coch ddim i'w cael yno."

Dywedodd Mr Hart ei fod e wedi trafod y pwnc yn Nhŷ'r Cyffredin er mwyn tynnu sylw at y gefnogaeth sydd yna i'r cynllun.

"Mae'n un o'r achosion prin yna ble mae pawb yn cytuno bod hwn yn syniad da," ychwanegodd.

Y cam nesa meddai, ydy sicrhau bod cynefin addas yn barod ar gyfer y gwiwerod.

Os nad ydy'r amodau yno yn barod yna byddai cynefin yn cael ei greu ar eu cyfer.

Mae'r prif boblogaethau o wiwerod coch yng Nghymru i'w gweld ar Ynys Môn ac yng nghoedwig Clocaenog yng Ngogledd Cymru ac yng nghoedwigoedd ardal Dyffryn Tywi yn y canolbarth.

Cynllun cadwraeth

Y llynedd fe wnaeth y Gweinidog Amgylchedd, Jane Davidson gyflwyno cynllun cadwraeth i arbed gwiwerod coch rhag diflannu.

Gwiwerod llwyd a lledaeniad afiechyd ydy'r prif resymau dros y cwymp yn niferoedd gwiwerod coch.

Yn ystod sesiwn holi cwestiynau yn Nhŷ'r Cyffredin gofynnodd Mr Hart i weinidogion "gefnogi a chynnig cymorth i'r mynachod wrth iddyn nhw geisio ail-gyflwyno'r wiwer goch i'r ynys."

Dywedodd Richard Benyon, sy'n weinidog yn adran Defra, ei fod e'n "canmol y mynachod a'u haelod seneddol am gefnogi'r cynllun yma.

"Dwi'n gwybod eu bod nhw'n edrych ar yr hyn ddigwyddodd ar Ynys Môn ble mae pobl bron wedi llwyddo i gael gwared ar wiwerod llwyd yno ac ar be mae hynny wedi ei olygu ar gyfer y wiwer goch yno."



HEFYD
Y dyn 'r 'ffydd ddiwyro'
14 Gorff 09 |  Newyddion
Mynachod yn derbyn eu teledu
07 Ebr 05 |  Newyddion
Mynachod yn colli achos
07 Ion 05 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific