British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Sul, 6 Chwefror 2011, 14:02 GMT
Trol´au: Siopau'n wynebu dirwyon

Troliau wedi eu gadael
Dywed y cyngor eu bod yn casglu tua 100 o drol´au bob mis

Mae Cyngor Sir Gaerfyrddin yn bwriadu dechrau cyflwyno dirwyon o £25 i archfarchnadoedd am bob troli siopa sy'n cael eu gadael mewn mannau anghyfreithlon.

Yn ôl y cyngor maen nhw'n casglu tua 100 o drolïau bob mis o strydoedd, parciau ac afonydd.

Maen nhw'n dweud eu bod yn gobeithio y bydd y bygythiad o ddirwy yn annog y siopau i sicrhau nad yw cwsmeriaid yn eu cymryd oddi ar dir yr archfarchnadoedd.

Un o'r ardaloedd sy'n dioddef fwyaf o'r aflwydd yw ystâd Ffynnon Las yn Rhydaman, lle daeth swyddogion y cyngor o hyd i dros 20 o drolïau tu fas i gartrefi ac ar y strydoedd.

Mae Philip Hughes, Aelod o Fwrdd Gweithredol Cyngor Sir Gar sydd â chyfrifoldeb am yr Amgylchedd, yn dweud taw fe sydd wedi penderfynu caniatáu i swyddogion chwilio am berchnogion y trolïau a'u dirwyo nhw.

Dywedodd y bydd y gost yn talu am ddod o hyd i'r trolïau a'u cadw'n ddiogel.

£60 am bob troli

Mae rhai cynghorau eraill yng Nghymru a Lloegr eisoes yn dirwyo mewn modd tebyg - mae cyngor Wrecsam wedi cyflwyno dirwy o £60 am bob troli maen nhw wedi dod o hyd iddyn nhw ers mis Ebrill.

Yn ôl Mr Hughes, "Pan mae'r trolïau 'ma'n cael eu gadael hyd y lle maen nhw'n cael effaith negyddol ar safon yr amgylchedd lleol, ac mae trolïau sy'n cael eu gadael mewn dŵr yn gallu achosi rhwystrau sy'n arwain at berygl o lifogydd.

"Dyw hyn ddim yn weithred yn erbyn y siopau.

"Ry'n ni eisiau cydweithio â nhw i leihau'r perygl o ddifrod i bobl, eiddo a'r amgylchedd, drwy greu system well o reoli trolïau."



HEFYD
Trol´au: Cynllun i godi tÔl
19 Ion 10 |  Newyddion


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific