British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Sadwrn, 5 Chwefror 2011, 09:11 GMT
Hwb o £500,000 i ymestyn rheilffordd

Cynllun artist o'r platfform yng Nghorwen
Bydd y lein yn cael ei hymestyn i blatfform dros dro yng Nghorwen

Mae cynlluniau i ymestyn rheilffordd stêm o Langollen hyd at hen dref farchnad Corwen gam yn nes at gael eu gwireddu.

Mae Llywodraeth y Cynulliad wedi cadarnhau y bydd yn rhoi grant o £500,000 tuag at adeiladu cam cyntaf yr ehangiad i'r rheilffordd stêm a diesel yn Sir Ddinbych.

Y gobaith yw y bydd teithwyr yn gallu cyrraedd Corwen ar y trên erbyn diwedd haf 2012. Mae dros 45 mlynedd wedi mynd heibio ers i'r gwasanaeth redeg ddiwethaf.

"Mae yna lawer i'w wneud mewn deunaw mis", meddai George Jones, swyddog cyhoeddusrwydd Rheilffordd Llangollen.

Mae trenau stêm a diesel eisoes yn rhedeg am 7.5 milltir ar hyd glan yr afon Dyfrdwy o Langollen i Garrog.

Bydd y lein yn rhedeg i blatfform dros dro yng Nghorwen, gan ymestyn y lein bresennol o ryw ddwy filltir.

Cysylltu dwy brif dref

Y bwriad yn y pendraw ydy adeiladu gorsaf derfyn lawn yng Nghorwen.

"Bydd hyn yn cysylltu'r ddwy brif dref," meddai Mr Jones.

"Gobeithio y bydd yn denu haen wahanol o'r farchnad dwristiaeth.

"Ar hyn o bryd mae pobl yn mynd ar y trên yn Llangollen yn y dwyrain ond gyda gorsaf yng Nghorwen, rydych chi'n agor y gwasanaeth i farchnad wahanol," ychwanegodd Mr Jones.

Y tro diwethaf i deithwyr allu mynd ar drên rhwng y ddwy dref oedd ym 1965. Tynnwyd y cledrau ym 1968.

Dywedodd cadeirydd Ymddiriedolaeth Rheilffordd Llangollen, Jim Ritchie: "Rydyn ni wrth ein boddau gyda'r newyddion fod grant wedi ei roi ac mae tîm y prosiect yn gweithio'n galed i orffen yr ychydig eitemau sydd ar ôl i'n galluogi i ddechrau'r gwaith yn yr wythnosau nesaf.

"Bydd adfer y cyswllt hanesyddol hwn yn rhoi cyswllt trafnidiaeth pwysig i deithwyr o orllewin dyffryn Dyfrdwy a safle Treftadaeth y Byd ym Mhontcysyllte," meddai Mr Ritchie.



HEFYD
Dim modd dechrau ymestyn rheilffordd
24 Awst 10 |  Newyddion
Cynllun i ehangu rheilffordd stêm
05 Ion 07 |  Newyddion
Hwb i gynllun rheilffordd
02 Hyd 04 |  Newyddion


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific