British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Gwener, 4 Chwefror 2011, 14:02 GMT
'Gwerthu stad fel hon bob cenhedlaeth'

Iolo ap Dafydd
Iolo ap Dafydd
BBC Cymru

Llyn Efyrnwy
Mae'r safle yn cynnwys gwarchodfa natur.

Unwaith mewn cenhedlaeth, yn ôl asiant tir cwmni Dŵr Hafren Trent, y daw stad o'r maint yma ar werth.

Y les sydd ar werth, yr hawl i redeg a rheoli dros 23,0000 o erwau am y 125 mlynedd nesaf.

Mae pedair rhan ar gyfer y "gwerthiant" - gyda thir amaethyddol, coedwig conwydd a rhostir y Berwyn o amgylch cronfa Llyn Llanwddyn i gyd ar gael.

Mi fydd dŵr y gronfa yn aros yn nwylo'r cwmni dŵr a £11 miliwn ydy'r pris gofynnol am y cwbl.

Ond fe allai'r arwerthiant fod yn gymhleth.

Pan fydd y cwmni dŵr yn cyhoeddi pwy ydy'r rhai allai gael eu hystyried yn brynwyr, mi fydd rhaid dweud wrth Gyngor Cefn Gwlad Cymru.

Y corff cynghori ydy gwas Llywodraeth y Cynulliad fel rheol ond y tro hwn ymgynghori ar ran Llywodraeth San Steffan, ac ar gyfer yr Ysgrifennydd Amgylchedd, Caroline Spelmane, y mae'r corff gan mai cwmni Seisnig ydy Dŵr Hafren.

Cyfrifoldeb statudol y Cyngor Cefn Gwlad ydy hyn o dan Ddeddf y Diwydiant Dŵr 1991, yn ymwneud â thir cwmnïau dŵr sy'n cael ei werthu. Amddiffyn lles a gwerth y tir ar gyfer y cyhoedd ydy'r prif reswm.

'Trysorau'

Yn ôl y cyngor: "Mae'r ucheldir o amgylch y llyn yn bwysig o achos y dŵr ond hefyd gan fod rhai o drysorau amgylchedd Cymru yno. Mae angen eu rheoli'n ofalus er mwyn eu gwarchod ar gyfer y cenedlaethau i ddod."

Ac mae cyfrifoldeb y cyngor yn ddiddorol.

Mae rhannau enfawr o'r stad yn ardaloedd cadwraeth o statws Ewropeaidd a Phrydeinig. Yno hefyd mae safleoedd o ddiddordeb gwyddonol arbennig - ar y rhostiroedd ac ar rannau o'r tir amaethyddol.

Fe fydd y cyngor wrth asesu darpar-brynwyr yn ystyried pa mor gymwys y gellid amddiffyn yr amgylchedd ac fe allen nhw osod amodau ar y prynwr.

Dywedodd Tim Jones o'r cyngor: "Rhaid i ni ystyried cyfrinachedd masnachol yr holl beth ond fe fyddai amodau yn ymwneud â chadwraeth natur, yr agweddau hanesyddol a mynediad i gefn gwlad.

"Mae miloedd o hectarau yno ond mae wedi derbyn lefel uchaf cadwraeth natur ..."

Mi fydd ymgynghoriad y cyngor yn dechrau pan fydd y cwmni dŵr yn cyhoeddi pwy sydd wedi cynnig prynu'r stad.

5,000 erw o goedwig

Efallai y cawn wybod rywbryd pwy ydy'r prynwr cudd sydd am brynu'r 5,000 erw o goedwig ar lannau'r llyn hefyd.

Ond hyd yma gŵr busnes o'r Bala, Rhys Jones, a'r Gymdeithas Gwarchod Adar sydd wedi dweud eu bod am geisio prynu les y stad.

Ym mis Medi dywedodd Mr Jones y gallai brynu'r les heb fynd i ddyled, a bod "ei ymrwymiad yn un nad yw yn ei wneud yn ysgafn".

"Mae'r iaith, yr amgylchedd a bywyd cefn gwlad Cymru yn bwysig i mi a'r teulu ac y bydd hynny'n parhau gan ein bod eisiau cadw'r stad yn y teulu."

Islaw'r argae a adeiladwyd gan Gorfforaeth Lerpwl tua 130 mlynedd yn ôl mae pentref Llanwddyn.

Mae nifer o'r pentrefwyr a'r ffermwyr sy'n denantiaid lleol wedi dweud cyn lleied y maen nhw'n ei wybod am broses gwerthu les y tir o'u cwmpas.

'Mwy o swyddi'

Dywedodd Ieuan Lewis, ffermwr a pherchennog gwesty gwely a brecwast: "Mae angen mwy o waith, mwy o swyddi, yn yr ardal.

"Mae gennym y gwesty sydd wedi creu nifer o swyddi ond does dim byd arall mewn gwirionedd - mae rhywfaint o amaethyddiaeth.

yr argae
Islaw'r argae mae pentref 'newydd' Llanwddyn

"Mae'r RSPB yn cyflogi rhai pobol ond mae angen menter newydd yn yr ardal."

Yn ôl Brian Ellis, ffermwr sy'n denant: "Dydyn ni ddim wedi clywed braidd dim am y gwerthiant.

"Y cwbl sydd gennym yw dyddiadau cau a phan mae'r dyddiad cau yn cyrraedd mae'n cael ei ymestyn eto ac eto, ac nid ydym yn gwybod mwy nag oedden ni adeg y cyfarfod cyntaf".

Ar ôl cyfarfodydd cyhoeddus misol yn Llanwddyn y gaeaf yma, mae deiseb wedi ei harwyddo gan nifer o'r pentrefwyr yn cefnogi ymgais Mr Jones i brynu'r les.

Yn y cylchlythyr lleol diweddaraf mae llun o gynghorydd lleol ag Aelod Seneddol Ceidwadol Sir Drefaldwyn Glyn Davies yn cyflwyno'r ddeiseb i Tim Wright o'r cwmni dŵr.

'Cynefinoedd gwerthfawr'

Yn y cyfamser nod y Gymdeithas Gwarchod Adar, yn ôl ei Phennaeth Materion Cyhoeddus, Delyth Willis, yw "ehangu cadwraeth yr ardal o achos y cynefinoedd gwerthfawr sydd yno'n barod".

Mae'r elusen yn rheoli fferm organig ar y stad yn barod ac yn awyddus i fod â chyfrifoldeb am rannau eraill o'r tir lleol.

Tra bod pryder am y dyfodol a'r ansicrwydd am beth a ddaw yn poeni rhai o'r trigolion sy'n byw yn lleol, fydd fawr o lais ganddyn nhw.

Trafod fydd y Cyngor Cefn Gwlad â chyrff fel y cynghorau lleol, Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri a Chadw yn ogystal ag adran Defra yn Llundain.



HEFYD
Ymgyrch i brynu Stad 11 miliwn
18 Gorff 10 |  Newyddion
Cwmni dwr yn gwerthu 23,000 o erwau
11 Gorff 10 |  Newyddion


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific