Darlun o'r cerflun wedi ei wneud o 36,000 o lechi
|
Ym Mlaenau Ffestiniog fe fydd cerflun wedi ei wneud o 36,000 o lechi yn rhan o gynllun gwerth £4.5 miliwn i wella'r dref. Yr artist Howard Bowcott o Benrhyndeudraeth sydd wedi ei gomisiynu i wneud y gwaith. Dywedodd fod y gwaith celf wedi creu dwy swydd: "Roeddem ni eisiau creu gweithiau celf cyfoes ond hefyd adlewyrchu treftadaeth a gwaith crefft y diwydiant llechi. "Rydym ni'n dathlu'r chwarelwyr oedd yn hollti'r llechi mor denau ac mor fedrus." Mae Cyngor Gwynedd mewn partneriaeth â grŵp adfywio Blaenau Ymlaen a Llywodraeth y Cynulliad wedi datblygu cynlluniau i wella'r dref ac wedi bod yn ceisio barn y bobl leol ers 2009. Y nod yw "creu amgylchedd addas i gynnal a chefnogi busnesau'r dref, arwain at dwf cynaliadwy a buddsoddi yn y dyfodol, cyfrannu at greu cyrchfan ymwelwyr o safon a chysylltu atyniadau allweddol y dref gyda'r ardal gyfagos". 'Hanes a diwylliant' Dywedodd Richard Thomas o Blaenau Ymlaen: "Roedd yn glir o'r cyfarfodydd ymgynghori a gynhaliwyd yn yr ardal fod pobl eisiau i'r cynlluniau fod wedi eu seilio ar ein hanes a'n diwylliant."
Gwaith celf Howard Bowcott yng Nghaerdydd
|
Mae'r artist wedi creu celf gyhoeddus mewn sawl man ond dywedodd ei fod yn falch o gael gweithio mor agos i gartref. Dywedodd: "Mae'r ddwy golofn o lechi wedi eu pentyrru ar uchder o 7.5 metr ... "Rydw i'n gweithio fel hyn yn aml, defnyddio llechi tenau Ffestiniog wedi eu gludo at ei gilydd a chraidd mewnol concrid i ddal popeth at ei gilydd yn ddiogel." Daw'r llechi o gwmni Llechi Cymraeg Greaves yn Chwarel Llechwedd ar gyrion Blaenau Ffestiniog a bydd y cerflun yn cael ei greu yng ngweithdy Howard ryw 10 milltir i ffwrdd. Dywedodd yr artist ei fod wedi cyflogi person lleol i'w helpu ac mae'r chwarel wedi bod yn dysgu prentis ifanc sut i hollti llechi. Mae disgwyl gwahoddiadau am dendrau i gyflawni'r gwaith yn y gwanwyn ac i'r gwaith ddechrau yn yr hydref.
|