British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Iau, 3 Chwefror 2011, 11:42 GMT
Ffair swyddi yn 'drobwynt posib'

Canolfan Waith
Ar hyn o bryd mae'r Ganolfan Byd Gwaith yn hysbysebu 14,500 o swyddi yng Nghymru.

Mae arweinwyr busnes yng Nghymru yn awgrymu y gallai ffair swyddi sy'n chwilio am 500 o staff newydd ar gyfer canolfannau galw fod yn arwydd o "drobwynt" yn y sefyllfa swyddi.

Mae Tesco, cwmni yswiriant Admiral a chwmni canolfan alwadau Conduit ymhlith chwe chyflogwr mawr yn y digwyddiad yng Nghaerdydd.

Dywedodd cyfarwyddwr CBI Cymru, David Rosser, nad oedd hyn yn arwydd cryf bod swyddi'n cael eu creu, ond bod "dinasoedd fel Caerdydd yn mynd i arwain y ffordd".

Yn ôl y Ganolfan Byd Gwaith, mae 2,500 o swyddi gwag wedi eu cofrestru yng Nghaerdydd yn unig.

Ymhlith y cwmnïau eraill sy'n chwilio am staff yn y digwyddiad yn llyfrgell ganolog Caerdydd y mae British Gas, Scottish & Southern Energy a chanolfan alwadau'r AA.

Mae'r swyddi yn cynnwys swyddi rheoli a gweinyddu yn ogystal â swyddi mewn canolfannau galw.

'Mwy gobeithiol'

Yn ôl Chris Hodge o gwmni Conduit, sydd â dwy ganolfan yng Nghaerdydd ac un yn Abertawe: "Rydym yn fwy gobeithiol ar gyfer 2011 nag oeddem ar gyfer 2010.

"Mae cwmnïau yn ymddangos yn llai gochelgar yn ystod mis cyntaf y flwyddyn nag y maen nhw wedi bod ers cryn dipyn."

Dywedodd yr Athro James Foreman-Peck o Ysgol Fusnes Caerdydd bod rhaid rhoi'r swyddi hyn yng nghyd-destun yr 20,000 sydd wedi eu cofrestru yn ddi-waith yn ardal Caerdydd a'r cyffiniau.

"Mae'n ymddangos yn arwydd bod y farchnad waith ar i fyny a gobeithio nad ydyn nhw i gyd yn swyddi â chyflogau cymharol isel.

"Os yw pethe ar i fyny ar gyfer cwmnïau mawr, efallai bod pethe ar i fyny ar gyfer cwmnïau bychain hefyd".

Ar hyn o bryd mae tua 2,500 o swyddi yng Nghaerdydd yn cael eu hysbysebu trwy'r Ganolfan Byd Gwaith a 14,500 yng Nghymru.



HEFYD
Cynnydd yn y rhai sy'n ddi-waith
19 Ion 11 |  Newyddion
Di-weithdra yn golygu problemau
29 Rhag 10 |  Newyddion
Mwy yng Nghymru'n ddi-waith
15 Rhag 10 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific