British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Iau, 3 Chwefror 2011, 15:11 GMT
Prifathrawes wedi ei gwahardd

Ysgol gynradd
Mae 235 o ddisgyblion yn yr ysgol

Mae prifathrawes ysgol gynradd ym Mhowys wedi cael ei gwahardd o'i gwaith wrth i ymchwiliad gael ei gynnal.

Cafodd rhieni Ysgol Maesydre yn Y Trallwng wybod ddydd Mawrth fod Suzanne Foster wedi cael ei gwahardd.

Dyw manylion yr honiadau ddim wedi cael eu cyhoeddi.

Mae'r rhieni wedi cael gwybod bod trefniadau eraill mewn lle tra bod yr ymchwiliad yn digwydd.

Mae 235 o ddisgyblion yn yr ysgol yn cael eu haddysg drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg.

Dywedodd llefarydd ar ran y cyngor: "Gallaf gadarnhau bod Pennaeth Ysgol Maesydre wedi cael ei gwahardd o'i gwaith tra bod ymchwiliad yn cael ei gynnal.

"Mae'r gwaharddiad yn weithred niwtral - cam sydd wedi ei gymryd er mwyn i ymchwiliad gael ei gynnal - ac mae trefniadau eraill yn yr ysgol."




Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific