British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Iau, 3 Chwefror 2011, 06:59 GMT
Refferendwm: Plaid Cymru 'wedi mynnu'

Peter Hain
Peter Hain yw pensaer y ddeddf sy'n sail gyfansoddiadol i'r refferendwm ar Fawrth 3

Mae cyn Ysgrifennydd Cymru, Peter Hain, wedi dweud wrth BBC Cymru taw'r unig reswm y bydd y refferendwm yn cael ei gynnal fis nesaf yw am fod Plaid Cymru wedi mynnu hynny.

Gyda dim ond mis tan y bleidlais, mae Peter Hain wedi rhybuddio nad dyma'r amser gorau i gynnal y refferendwm, a'i fod yn disgwyl i'r nifer sy'n pleidleisio fod yn isel.

Peter Hain yw pensaer y ddeddf sy'n sail gyfansoddiadol i'r refferendwm ar Fawrth 3. Ond yn wleidyddol, daw'r bleidlais yn sgil y cytundeb glymblaid rhwng Llafur a Phlaid Cymru yn y Cynulliad.

 dim ond mis tan y refferendwm, bydd y sylwadau yma sy'n cwestiynu amseru'r bleidlais, gan ffigwr mor flaenllaw o fewn y blaid Lafur, yn syndod i nifer o ymgyrchwyr Ie.

Mewn ymateb, dywedodd Plaid Cymru fod y blaid Lafur wedi pleidleisio yn 2007 i gynnal y refferendwm cyn Mai 2011.

Craffu

Dywedodd Mr Hain hefyd nad yw Aelodau'r Cynulliad, tan yn ddiweddar iawn o leiaf, wedi meddu'r gallu i graffu ar ddeddfwriaeth yn iawn - yn benodol wrth gymharu â'r rol allweddol gan Aelodau Seneddol.

Serch hynny, mae'n cydnabod bod gwleidyddion ym Mae Caerdydd wedi gorfod dysgu'n gyflym, a'u bod nawr mewn sefyllfa i ymateb i'r her o lunio deddfau cynhenid Cymreig.

Er bod Mr Hain cyn hyn wedi annog cynnal y bleidlais yn ystod "tymor nesaf y cynulliad", dywedodd ei fod wedi cyrraedd "trobwynt" ar y mater oherwydd effeithiau toriadau llywodraeth y DU ar Gymru.

Dywedodd Mr Hain bod cyllideb S4C wedi cael ei thorri, bydd swyddfa pasport Casnewydd yn cau, y cynlluniau ar gyfer Coleg Hyfforddi Milwrol yn Sain Tathan wedi eu rhoi o'r neilltu a chynllun morglawdd Hafren wedi ei ddileu.

Ychwanegodd Mr Hain: "Mae hyn i gyd wedi creu adwaith - mae pobol fu gynt yn anfoddog i bleidleisio IE nawr yn dweud, 'Mae angen mwy o rym arnom yng Nghymru er mwyn inni amddiffyn ein hunain rhag ymosodiadau asgell dde o San Steffan.'"



REFFERENDWM
DIWRNOD Y CYFRI

NEWYDDION YR YMGYRCH
CEFNDIR
CYNULLIAD Y BOBOL
CF99
GWYLIWCH
LANSIO

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific