British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Mercher, 2 Chwefror 2011, 10:50 GMT
Marw Margaret John

Margaret John
Roedd ei hymddangosiad olaf yn y gyfres Gymraeg Alys ar S4C

Mae'r actores Margaret John, un o sêr y gyfres gomedi Gavin and Stacey, wedi marw mewn ysbyty yn Abertawe wedi salwch byr.

Roedd yn 84 oed.

Bu farw yn Ysbyty Singleton, Abertawe, yn gynnar fore Mercher.

Dywedodd llefarydd ar ran Canolfan y Mileniwm, lle cymerodd ran yn y ddrama Calendar Girls y llynedd: "Rydyn ni i gyd yn drist iawn ar ôl clywed y newyddion ac yn meddwl am ei theulu a'i ffrindiau.

"Roedd yn drysor cenedlaethol."

Fe gafodd ei geni yn Abertawe a gadwaodd goleg drama yn 1950.

Hi oedd yn chwarae rhan Doris, oedd yn enwog am ei dywediadau lliwgar, yn y gyfres lwyddiannus oedd wedi ei lleoli yn Ynys y Barri, gyda Ruth Jones a James Corden.

Teyrngedau

Mae ei chyd actorion yn y gyfres Gavin and Stacey wedi bod yn talu teyrngedau iddi.

Dywedodd yr actor ac un o gyd awduron y gyfres, James Corden, ei bod yn "actores wych a menyw anhygoel".

Dywedodd y Gymraes Joanna Page, a oedd yn chwarae rhan Stacey: "Roedd Margaret yn wraig gynnes, garedig, cheeky, hwyliog a phrydferth. Roedd yn actores anhygoel ac roedd yn fraint gweithio gyda hi. Byddaf yn ei cholli. Mae fy meddyliau gyda'i theulu."

Anfonodd Mathew Horne, a chwaraeai ran Gavin, neges Twitter yn dweud bod Margaret John yn "gymaint o hwyl i weithio gyda hi."

Dywedodd Rob Brydon, Uncle Bryn yn y gyfres, fod pawb ar y rhaglen yn ei "haddoli".

Galwodd y Gweinidog Treftadaeth, Alun Ffred Jones, Margaret John yn "ambassador da i Gymru".

"Er bod y newyddion yma yn newyddion trist iawn iawn, dwi'n credu mai achos i ddathlu sydd ganddom ni. Dathlu bywyd gafodd ei fyw yn llawn iawn ac sydd wedi cyfrannu llawer i'n pleser ni fel Cymry," meddai

Dywedodd cyfarwyddwr BBC Cymru, Menna Richards, ei bod yn "gonglfaen y diwydiant teledu a radio yng Nghymru".

"Fe wnaeth ei bywiogrwydd, ei hegni a'i brwdfrydedd ei hanwylo i genedlaethau o bobl ac fe hoffwn i dalu teyrnged iddi am y pleser mawr a roddodd i'w chefnogwyr niferus yng Nghymru a thu hwnt," meddai.

Roedd ei hymddangosiad olaf ar deledu yn y gyfres Gymraeg Alys ar S4C.

Bu am gyfnod hir yn chwarae rhan y fam yn nghyfres gomedi BBC Cymru, High Hopes.

Z Cars

Ar ddechrau ei gyrfa roedd am gyfnod byr yn Coronation Street yn 1965 a chafodd rannau hefyd yn Z Cars, Doctor Who, Dixon of Dock Green, Emmerdale Farm a Phobol y Cwm.

Roedd hi yn ffilm gomedi Brydeinig David Schwimmer, seren y gyfres Friends, Run Fatboy Run, yn 2007 a chafodd rannau yn fwy diweddar yng nghyfresi Casualty a Doctors.

Ac roedd hi hefyd wedi ymddangos yn y cyfresi comedi, The Mighty Boosh a Little Britain.

Ym mis Mai 2009 cafodd wobr Cyflawniad Oes Bafta Cymru ac ym mis Awst 2010 ymunodd â chast y ddrama Calendar Girls yng Nghanolfan y Mileniwm yng Nghaerdydd.




Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific