British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Mercher, 2 Chwefror 2011, 14:24 GMT
Sefyllfa datganoli ym Mhrydain

Aled ap Dafydd
Gohebydd gwleidyddol BBC Cymru

San Steffan gyda'r nos
Ers 1997 mae grym wedi araf ledaenu o San Steffan

Beth yw datganoli? Mae'n rhan annatod o eirfa ein dinasyddion ers 1997 pan bleidleisiodd pobl Cymru o blaid sefydlu'r cynulliad.

Trosglwyddo pwerau o lywodraeth ganolog i lywodraethau lleol ydi bwriad datganoli ond, yn y Deyrnas Unedig, mae'n cymryd sawl ffurf wahanol.

Mae'n golygu nad ydi'r un drefn yn weithredol yng Nghymru, Yr Alban a Gogledd Iwerddon.

Gogledd Iwerddon

Yn dilyn cytundeb Belfast ym 1998 sefydlwyd cynulliad yng Ngogledd Iwerddon er mwyn ceisio uno'r carfanau Protestannaidd a Chatholig.

Bu'r ymdrech i ganfod heddwch yn y dalaith yn fwrn ar y broses ddemocrataidd ac roedd hi mor ddiweddar â 2007 pan gytunodd Ian Paisley a Gerry Adams i rannu grym.

Wedi'r penderfyniad i drosglwyddo'r grymoedd yn ymwneud â phlismona a chyfiawnder y llynedd, mae gan yr 108 o aelodau'r cynulliad yng Ngogledd Iwerddon fwy o gyfrifoldebau nag aelodau'r cynulliad ym mae Caerdydd.

Yr Alban


A ddylai aelodau seneddol o'r Alban (a Chymru a Gogledd Iwerddon) gael yr hawl i bleidleisio ar ddeddfau sy'n effeithio ar Loegr yn unig ...?


Fyth ers diddymu senedd yr Alban ym 1707 bu unigolion a mudiadau yn galw am ddeddfwrfa newydd. Daeth y cyfle cyntaf i Albanwyr wneud hynny ym 1979 ond, er bod mwyafrif o blaid cynulliad, fe fethodd yr ymgyrch 'ie' a chyrraedd y trothwy angenrheidiol o 40%.

Roedd hi'n 18 mlynedd arall cyn y cafwyd pleidlais 'ie' a fyddai'n rhoi sêl bendith i sefydlu senedd newydd. Rhoddwyd yr hawl i'r senedd greu deddfau newydd mewn meysydd datganoledig a'r hawl hefyd i addasu telerau treth, er nad ydi'r grym wedi cael ei ddefnyddio hyd yma.

Mae datganoli yn Yr Alban wedi esgor ar yr hyn sy'n cael ei gyfeirio ato fel 'cwestiwn West Lothian'. A ddylai aelodau seneddol o'r Alban (a Chymru a Gogledd Iwerddon) gael yr hawl i bleidleisio ar ddeddfau sy'n effeithio ar Loegr yn unig tra dim ond gwleidyddion yng Nghaeredin, Caerdydd a Belfast all ddeddfu mewn meysydd datganoledig?

Cymru

Cafodd cynlluniau i greu cynulliad yng Nghymru eu hamlinellu gan y Llywodraeth Lafur yr un adeg a'r cynllun yn Yr Alban ond roedd mwyafrif sylweddol yn erbyn datganoli yng Nghymru ym 1979.

Yn refferendwm 1979 pleidleisiodd 956,330 yn erbyn gyda 243,043 o blaid.

Roedd y canlyniad yn wahanol yn '97 ac, o ganlyniad, crëwyd Deddf Cymru 1998 a oedd yn trosglwyddo'r pŵer i benderfynu sut y byddai'r gyllideb ar gyfer Cymru yn cael ei wario a'i weinyddu. Olynydd deddf 1997 oedd Deddf Cymru 2006 a grëodd Lywodraeth Cymru a fyddai'n gorff ar wahân i'r ddeddfwrfa, sef Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Mae gan gyngor plwyf fwy o bwerau trethiannol na'r Cynulliad.
Yr Athro Richard Wyn Jones, Canolfan Llywodraethiant Cymru

Ar hyn o bryd, o dan Ran 3 Deddf Llywodraeth Cymru 2006 ("Deddf 2006"), gall Cynulliad Cenedlaethol Cymru basio deddfwriaeth sylfaenol, a elwir yn "Mesurau Cynulliad", yn y meysydd lle mae ganddo gymhwysedd deddfwriaethol o dan y Materion sydd wedi'u cynnwys yn yr 20 maes datganoledig.

Os bydd mwyafrif yn pleidleisio o blaid rhoi rhagor o bwerau i'r Cynulliad Cenedlaethol, a symud i Ran 4 o Ddeddf 2006, yn y refferendwm ar 3 Mawrth 2011, bydd y Cynulliad Cenedlaethol yn gallu pasio deddfwriaeth ar ffurf "Deddfau Cynulliad", a hynny yn yr holl feysydd a amlinellir yn yr 20 pwnc datganoledig.

Ond a'i dyna fydda'i diwedd hi? Go brin. Proses yn hytrach na digwyddiad ydi datganoli ac yn ôl Yr Athro Richard Wyn Jones o Ganolfan Llywodraethiant Cymru, mae'r cam nesaf yn un eithaf amlwg.

"Mae'r cwestiwn o ariannu datganoli yn mynd i godi doed a ddêl ... boed yna bleidlais 'na' neu bleidlais 'ie'.

"Ar hyn o bryd mae ganddoch chi gorff sydd yn gwario £15 biliwn y flwyddyn ond sydd ddim yn codi dime' goch. Mae gan gyngor plwyf fwy o bwerau trethiannol na'r Cynulliad. Mae 'na ddadl sydd yn dweud os ydach chi'n rhoi'r cyfrifoldeb i bobol am wario ond ddim y cyfrifoldeb am godi pres 'da chi'n mynd i greu cyfundrefn sydd yn golygu nad ydi gwleidyddion yn ystyried yn ddigonol o le mae'r arian yn dod.

"Mewn cyfnod o gyni dwi'n meddwl y bydd y llywodraeth yn Llundain yn y pen draw yn mynnu codi'r cwestiwn o ariannu'r Cynulliad. "

Mae'r llyfrau hanes yn dangos nad oes yr un sefydliad gwleidyddol yn aros yn llonydd ond mae rhai o bryd i'w gilydd yn dibynnu ar ewyllys y bobl i esblygu ac etholwyr Cymru fydd yn penderfynu ar Fawrth 3 a fydd 'na gam arall ymlaen ar y llwybr datganoli.



REFFERENDWM
DIWRNOD Y CYFRI

NEWYDDION YR YMGYRCH
CEFNDIR
CYNULLIAD Y BOBOL
CF99
GWYLIWCH
LANSIO

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific