British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Mawrth, 1 Chwefror 2011, 06:59 GMT
Elusen yn rhoi gobaith i gleifion calon

Meddyg yn profi pwysded gwaed
Mae nifer y bobl sy'n byw gyda'r clefyd wedi cynyddu'n gyson ers y 1960au

Gallai miloedd o bobl yng Nghymru sy'n dioddef o glefyd y galon gael gwellhad o fewn 10 mlynedd, yn ôl Sefydliad y Galon.

Mae'r elusen wedi cyhoeddi rhaglen ymchwil newydd i feddygaeth atgynhyrchiol i geisio dod o hyd i ffordd o iacháu pobl o'r clefyd.

Mae clefyd y galon yn parhau i ladd dros 4,000 o bobl y flwyddyn yng Nghymru.

Bydd y prosiect 'Mending Broken Hearts' yn defnyddio ymchwil celloedd bonyn a bywydeg datblygu i ganfod sut i drwsio niwed i gyhyrau'r galon - a 'gwella tor calon' yn llythrennol - mewn cyn lleied â deng mlynedd, medd yr elusen.

Ond maen nhw'n apelio am arian gan y cyhoedd i'w helpu i gyflawni'r gwaith ymchwil.

Cynnydd

Mae'r byrdwn o drin cleifion gyda diffyg ar y galon wedi cynyddu'r gyson ers y 1960au.

Mae'r cyflwr yn un o brif achosion dros anabledd yn y DU, gyda rhai cleifion yn gaeth i'r tŷ ac yn gorfod ymladd i gael eu hanadl. Yn aml mae dod allan o'r gwely neu fwyta pryd o fwyd yn waith anodd.

Mae nifer y bobl sy'n marw o glefyd y galon yng Nghymru, sy'n cynnwys trawiad ar y galon, wedi gostwng bron i 9,000 yn 1961 i ychydig dros 4,000 yn 2009.


Mae'r gwaith ymchwil newydd yma yn rhoi gobaith i gannoedd o filoedd o gleifion calon y gallai triniaethau newydd fod ar gael i bobl fel nhw yn y dyfodol

Joanne Davies, nyrs ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro

Ond mae nifer y bobl sy'n goroesi trawiad ac sy'n byw gyda diffyg ar y galon wedi parhau i gynyddu ers y 1960au.

Pan ddechreuodd Sefydliad y Galon yn 1961, amcangyfrifwyd bod 5,000 o bobl yng Nghymru yn dioddef o ddiffyg ar y galon.

Ond oherwydd bod y boblogaeth yn heneiddio, a mwy o bobl nawr yn byw ar ôl cael trawiad ar y galon, mae mwy na 23,000 o bobl yn byw gyda'r cyflwr erbyn hyn - ac mae disgwyl i'r ffigyrau fod yn uwch na hyn yn y dyfodol.

Trwsio cyhyrau'r galon

Daw rhywfaint o'r ysbrydoliaeth ar gyfer y rhaglen ymchwil o dechnegau atgynhyrchu sydd eisoes yn digwydd ym myd natur: mae rhai anifeiliaid, fel pysgod zebra, yn gallu ail-dyfu rhannau o'u calonnau eu hunain.

Celloedd bonyn
Bydd y gwaith ymchwil yn defnyddio ymchwil celloedd bonyn

Mae'n bosib y gallai'r gwaith ymchwil wneud hyn yn bosib mewn pobl hefyd.

Dywedodd yr Athro Peter Weissberg, cyfarwyddwr meddygol Sefydliad y Galon: "Yn wyddonol, mae trwsio calonnau dynol yn nod y mae'n bosib ei gyrraedd ac fe allem ni wneud gwella o drawiad ar y galon mor syml â gwella o dorri coes.

"Ond mae'n rhaid inni wario dros £50 miliwn i wireddu hyn, ac ar hyn o bryd nid yw'r adnodau a'r buddsoddiad sydd ei angen arnon ni ar gael."

Apêl i godi arian

Meddai Joanne Davies, nyrs Sefydliad y Galon ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro: "Rydw i'n gweld cleifion newydd sydd wedi dioddef o fethiant ar y galon bob wythnos ac mi wn yn rhy dda am yr effaith andwyol mae'n ei gael ar y claf, ac ar eu teuluoedd hefyd.

"Gyda diffyg ar y galon, gall tasgau syml fel gwisgo neu fwyta pryd o fwyd eich gwanychu yn gorfforol.

"Hyd yma, roedd y dyfodol wastad yn edrych yn ddu. Ond mae'r gwaith ymchwil newydd yma yn rhoi gobaith i gannoedd o filoedd o gleifion calon y gallai triniaethau newydd fod ar gael i bobl fel nhw yn y dyfodol."

Mae'r elusen yn gofyn i bobl drwy Gymru gefnogi ei hapêl. Dyma ymgyrch godi arian fwyaf uchelgeisiol yr elusen hyd yma.



HEFYD
Gwasanaeth newydd i achub bywydau
09 Rhag 10 |  Newyddion
Pobl leol yn rhan o arolwg iechyd
16 Awst 10 |  Newyddion
Atal clefydau'r dyfodol?
30 Gorff 10 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific