British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Mawrth, 1 Chwefror 2011, 08:41 GMT
Ysgol Gymraeg: Holi barn

Plant ysgol (cyffredinol)
Mae galw aruthrol am addysg Gymraeg yn yr ardal

Bydd y cyhoedd yn cael lleisio eu barn ar gynlluniau dadleuol i godi ysgol gynradd Gymraeg newydd yn Wrecsam.

Cafodd Cyngor Wrecsam ganiatâd cynllunio ddechrau mis Ionawr ar gyfer codi ysgol i ateb y galw cynyddol am addysg Gymraeg yng ngogledd y sir.

Ond mae nifer o bobl leol yn gwrthwynebu codi'r adeilad newydd ym mhentref Gwersyllt ger Wrecsam am ei fod ar dir gwyrdd Parc Gwledig Dyfroedd Alun.

Cytunodd y cyngor i gynnal ymgynghoriad cyhoeddus ynglŷn â chodi'r adeilad mewn cyfarfod ddydd Mawrth.

Brys

Mae'r awdurdod yn dweud fod cynnig mwy o leoedd cyfrwng Cymraeg yn flaenoriaeth uchel iddyn nhw a bod brys mawr i fwrw ymlaen â'r cynllun yma sydd werth £5.9 miliwn.

Eisoes maen nhw wedi gorfod dyblu'r nifer sy'n cael eu derbyn i Ysgol Plas Coch oherwydd y galw yn yr ardal.

Bydd lle yn yr ysgol newydd ar gyfer 210 o ddisgyblion.

Y nod yw agor yr ysgol o fewn tair blynedd.

Bydd yr ymgynghoriad yn gofyn am farn rhieni, llywodraethwyr, staff a thrigolion lleol yn ogystal â Chyngor Sir y Fflint a Bwrdd yr Iaith Gymraeg.



HEFYD
Caniatād i godi ysgol Gymraeg
05 Ion 11 |  Newyddion
Cais i godi ysgol Gymraeg newydd
04 Ion 11 |  Newyddion
'Anfodlon am safle ysgol'
22 Hyd 10 |  Newyddion
Cyngor i gymeradwyo ysgol Gymraeg
21 Medi 10 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific