Roedd ymyrraeth Llywodraeth y Cynulliad yn unigryw yng Nghymru
|
Mae'r Swyddfa Archwilio wedi cyhoeddi ei adroddiad cyntaf i Gyngor Sir Ynys Môn yn dilyn deddfwriaeth newydd ym mis Ebrill 2010. Mae'r ddeddf yn ei gwneud hi'n ofynnol i bob cyngor wneud trefniadau i wella eu gwasanaethau a'r ffordd maent yn gweithio. Prif neges yr adroddiad yw bod yr awdurdod wedi ymateb yn bositif i ganfyddiadau adroddiad blaenorol hynod feirniadol yn 2009 gan yr Archwilydd Cyffredinol. Arweiniodd yr adroddiad yna at Weinidog Llywodraeth Leol Llywodraeth y Cynulliad yn ymyrryd, a phenodi prif weithredwr dros dro. Mwy atebol Mae'r adroddiad diweddaraf a gyhoeddwyd ddydd Llun yn dweud bod angen mwy o waith i sicrhau nad yw problemau'r gorffennol yn codi eto pan fydd yr ymyrraeth yma ar ben. Dywed yr adroddiad bod newidiadau rheolaeth yn cynyddu'r ffocws ar faterion strategol a bod penaethiaid gwasanaethau yn fwy atebol nag o'r blaen. Ond daeth rhybudd bod y cyngor yn dal i weld newidiadau mewn teyrngarwch gwleidyddol, ac y gall y brwydro am rym dynnu sylw cynghorwyr a rheolwyr oddi wrth y materion sy'n bwysig i'r awdurdod a'r bobl y mae'n eu gwasanaethu. Dywed yr adroddiad y bydd y cyngor yn gweld gostyngiad o tua £1.6 miliwn yn yr arian y mae'n ei dderbyn gan Lywodraeth y Cynulliad ar gyfer 2011-12. Mae hyn yn cyfateb i arbedion o £10 miliwn dros y tair blynedd nesa', ond mae cynlluniau'r cyngor hyd yma wedi nodi £7 miliwn o arbedion yn unig. Gwasanaethau Er amcan y cyngor i gwrdd â'r galw am dai yn lleol, dywed yr adroddiad nad oes cynllun clir gan yr awdurdod er mwyn cyrraedd y nod yna. Roedd awdurdod yr ynys yn perfformio'n dda mewn rhai meysydd o gymharu â gweddill Cymru - cyrhaeddiad addysgol, er enghraifft, lle mae'r cyngor yn uwch na'r cyfartaledd yn y rhan fwyaf o agweddau. Ond fe fydd y rhybuddion yn yr adroddiad yn arwydd nad yw'r trafferthion sydd wedi wynebu'r awdurdod ers blynyddoedd bellach eto wedi dod i ben.
|