British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Llun, 31 Ionawr 2011, 13:31 GMT
Ysgol yn ymchwilio i fideo YouTube

Tudalen YouTube (cyffredinol)

Mae ymchwiliad wedi dechrau i honiadau fod deunydd personol yn ymwneud â disgybl ysgol uwchradd wedi'i ddefnyddio ar fideo hyfforddi ar y we.

Honnir fod y wybodaeth - yn cynnwys record ymddygiad a manylion cyswllt un o ddisgyblion Ysgol Eirias, Bae Colwyn - i'w weld yn gyhoeddus ar wefan YouTube.

Cadarnhaodd Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth eu bod wedi cael eu hysbysu.

Dywedodd y prifathro, Phil McTague, ei fod yn ymchwilio ond nad oed ganddo lawer o fanylion.

Yn ôl yr hyn a honnir, roedd manylion y disgybl wedi cael eu cyhoeddi fel rhan o fideo hyfforddi fyddai ar gael i staff yr ysgol, ond cafodd y wybodaeth ei gyhoeddi yn ehangach.

Mae'n debyg fod y recordiad, sydd ychydig dros dri munud o hyd, yn cael ei ddefnyddio i egluro sut i ddefnyddio system gyfrifiadurol fewnol i gofnodi ymddygiad drwg neu achosion o fwlio.

Gwybodaeth 'gyfrinachol'

Honnir bod rhan o'r fideo hefyd yn cynnwys cofnod cyfrinachol y disgybl, yn cynnwys ei enw llawn, ei gyfeiriad, manylion cyswllt arall, ynghyd â sylwadau ynglyn â'i ymddygiad.

Mae pennaeth Ysgol Eirias wedi dweud wrth BBC Cymru fod pryderon wedi'u codi a bod yr ysgol yn ymchwilio.

Mae Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth - y corff cyhoeddus annibynnol yn y DU sydd wedi'i sefydlu i hybu'r cyfle i weld gwybodaeth swyddogol ac i ddiogelu gwybodaeth bersonol - hefyd wedi cadarnhau eu bod yn ymchwilio i'r honiad.

Dywedodd tad y disgybl ei fod wedi ei synnu gyda'r hyn a ddigwyddodd, ond ei fod yn deall mai camgymeriad oedd o a'i fod yn derbyn ymddiheuriad yr ysgol.

"Mae rhywun wedi gwneud camgymeriad - mae pawb yn gwneud camgymeriadau. Dim ond wedi pwyso'r botwm anghywir oedd o", meddai.

Ychwanegodd fod yr ysgol wedi esbonio y gallai gwyno i fwrdd y llywodraethwyr, a'u bod wedi ei wneud yn ymwybodol o'i hawliau.



CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific