Bu farw dau berson o fewn pump wythnos ar yr A48 yn 2009
|
Mae cynghorwyr wedi cefnogi cynlluniau i atal traffig rhag croesi rhan brysur o ffordd ddeuol yn Sir Caerfyrddin. Y bwriad yw cyflwyno'r mesurau diogelwch ar bedair milltir o'r A48 rhwng Pont Abraham a Cross Hands yn Sir Caerfyrddin, lle mae'r uchafswm cyflymder yn 70 m.y.a. Fe bleidleisiodd bwrdd gweithredol y cyngor o blaid cyflwyno gorchymyn traffig perthnasol, ond maen nhw'n galw ar Lywodraeth y Cynulliad i gynnal ymchwiliad cyhoeddus yn gyntaf. Dywedodd gwrthwynebwyr y cynllun eu bod yn "siomedig iawn" gyda'r penderfyniad. Mewn cyfarfod ddydd Llun, clywodd cynghorwyr fod 'na "raddfa uwch na'r cyfartaledd" o ddamweiniau ar y ffordd, gan gynnwys tair damwain farwol mewn pum mlynedd. Bydd y gorchymyn traffig yn caniatâu cau cyffyrdd sy'n croesi llain ganol yr A48. Yn ôl rhai sy'n gefnogol i'r cynllun, byddai'n gwella diogelwch ar y ffordd. Ond mae gwrthwynebwyr yn dweud mai cyflymder yw'r broblem ac nid y cyffyrdd. Dywed rhai pobl a busnesau sy'n gwrthwynebu cau'r cyffyrdd y byddai'n golygu taith llawer hirach. 'Siomedig iawn' Yn ôl y cynghorydd cymunedol, Llinos Evans, byddai cau'r cyffyrdd yn gorfodi pobl leol i deithio i Cross Hands ar ochr orllewinol y ffordd, neu i Bont Abraham ar yr ochr ddwyreiniol er mwyn cyrraedd eu cartrefi. Ychwanegodd y byddai'r cynllun yn arwain at gynnydd mewn tractorau ar yr A48, gan na fyddai ffermwyr yn gallu croesi'r ffordd ddeuol er mwyn cael at eu tir. "Rwy'n siomedig iawn", meddai. "Maen nhw'n cynyddu'r perygl o ddamweiniau trwy roi cerbydau amaethyddol sy'n symud yn ara' ar ffordd lle mae'r cyflymder yn gallu bod yn fwy na 70 m.y.a." Yn ôl yr adroddiad, roedd angen newidiadau i'r A48 rhwng Cross Hands a'r M4 yn Sir Gaerfryddin. Un o'r cyffyrdd allai gau yw'r un ger Cwmgwili, lle bu farw dau berson mewn dwy ddamwain yn ystod 2009. Yn y cwest i farwolaeth y dyn busnes lleol, Roger Bowen, dywedodd y crwner John Owen fod angen gwneud rhywbeth i wella diogelwch ar y rhan yna o'r ffordd. Cefnogaeth Clywodd y cwest fod pryderon am y gyffordd ers 2004. Mae teulu Mr Bowen wedi cefnogi'r cynllun i gau'r cyffyrdd. Dywedodd arweinydd y cyngor, Meryl Gravel: "Rydym wedi rhoi llawer o amser ac ymdrech i hyn - rydym wedi cwrdd â phrotestwyr ar nifer o achlysuron." Tra bod y dirprwy arweinydd, Kevin Madge, yn cefnogi'r penderfyniad i ganiatâu'r gorchymyn traffig perthnasol, mae'n dweud y dylai Llywodraeth y Cynulliad gynnal ymchwiliad cyhoeddus cyn i'r gwaith ddechrau. Wrth gau'r cyffyrdd, meddai, byddai'r llywodraeth mwy neu lai yn "creu traffordd rad".
|