British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Sadwrn, 29 Ionawr 2011, 12:24 GMT
Prentisiaeth yn apelio'n fwy?

Airbus 380
Mae adenydd awyrennau Airbus yn cael eu cynhyrchu yn Sir y Fflint

Roedd un o brif gyflogwyr Cymru, Airbus, yn cynnal digwyddiad ddydd Sadwrn am gynlluniau hyfforddi yn eu ffatri yn Sir Y Fflint.

Yn ôl darlithydd busnes, mae'r sefyllfa economaidd yn arwain pobl i ddewis rhywbeth heblaw addysg uwch.

Y llynedd fe aeth 2,000 o bobl ifanc i'r diwrnod agored.

Roedd y digwyddiad ar gyfer y rhai sy'n gadael ysgol, y rhai sy'n ddi-waith neu'n chwilio am gyfle i ailhyfforddi.

'Atyniadol'

Fe fydd prentisiaid yn y ffatri yn ennill arian wrth ddysgu sut i fod yn beiriannydd yn y diwydiant awyrennau.

Mae'r cyrsiau ar y cyd â Choleg Glannau Dyfrdwy.

Cyn y digwyddiad dywedodd y Dr Gareth Griffiths o Brifysgol Bangor: "Mae'r cynnydd mewn costau yn gwneud dewis arall, hynny yw peidio mynd i brifysgol, yn fwy atyniadol.

"Mae cael swydd wrth hyfforddi yn rhoi profiad gwaith ac arian fel nad yw'r dyledion yn mynd mor uchel.

"I rai mae cael hyfforddiant mewn diwydiant yn opsiwn da, yn enwedig yn yr hinsawdd economaidd."

'Llafur rhad'

Ond dywedodd Dr Griffiths, cyfarwyddwr rhaglenni ôl-radd, y dylai pobl ifanc fod yn ofalus.

"Mae cwmnïau a sefydliadau mawr fel Airbus yn dueddol o fod â chynlluniau hyfforddi ffurfiol ond dydi hyn ddim yn wir am y cwmnïau llai sy'n ystyried prentisiaeth yn ffordd o gael llafur rhad drwy dalu pobl yr isafswm cyflog a chael gwared arnyn nhw heb rybudd a dim hyfforddiant."

Yn y digwyddiad roedd cynrychiolwyr Colegau Glannau Dyfrdwy ac Iâl a Phrifysgol Glyndŵr yn ogystal â Connexions a Gyrfa Cymru.

Dywedodd Mandy Helsby, un o ymgynghorwyr oedolion Gyrfa Cymru: "Dwi'n meddwl y bydd mwy na'r nifer oedd yna'r llynedd ac mae 'na fwy o gystadleuaeth.

"Mae'n gyfle gwych i bobl achub y blaen a gwella eu cyfleon gwaith."

Fe fydd y rhai llwyddiannus yn astudio yng Ngholeg Glannau Dyfrdwy am flwyddyn cyn mynd i weithio i'r ffatri.

"Mae'n galonogol gweld cwmnïau fel Airbus yn cynnig cyfle fel hwn i'r economi yng ngogledd ddwyrain Cymru," meddai Pennaeth a Phrif Weithredwr Coleg Glannau Dyfrdwy, David Jones.

"Mae'n rhoi cyfle i bobl fod yn rhan o un o'r cwmnïau mwya."

Roedd y digwyddiad tan 2.30pm ym Mharc Diwydiannol Penarlâg ym Mrychdyn.



CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific