British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Sadwrn, 29 Ionawr 2011, 10:37 GMT
'Anelu at hybu'r iaith ar y we'

Logo Hacio'r Iaith
Nod: 'Darganfod syniadau a phosibiliadau newydd'

Am y tro cyntaf, medd trefnwyr, roedd digwyddiad i rai o blaid defnyddio potensial y we ar gyfer y Gymraeg.

Y thema yn Adeilad Parry Williams ar gampws Penglais Prifysgol Aberystwyth ddydd Sadwrn oedd y Gymraeg, Technoleg a'r We.

Yn ôl y trefnwyr, nid cynhadledd draddodiadol oedd Hacio'r Iaith.

Roedd nifer o unigolion a grwpiau wedi cofrestru a dangos diddordeb yn y digwyddiad, gan gynnwys cyfranwyr a datblygwyr gwefannau Cymraeg.

"Mae Hacio'r Iaith yn ddigwyddiad sy'n gofyn i bawb gymryd rhan ynddo," meddai un o gydlynwyr Hacio'r Iaith, Carl Morris, cyn y digwyddiad.

"Byddwn yn sicr o ddarganfod syniadau a phosibiliadau newydd ar gyfer y Gymraeg ar y we, a thrin a thrafod datblygiadau newydd yn frwd."

Roedd noddwyr y digwyddiad yn cynnwys y Sefydliad Mercator ac Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu Prifysgol Aberystwyth, Bwrdd yr Iaith Gymraeg, Sbellcheck, NativeHQ, Cube Interactive a Chymdeithas yr Iaith Gymraeg.

Roedd yn cael ei gynnal ddydd sadwrn tan 7pm.



CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific