British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Iau, 3 Chwefror 2011, 07:55 GMT
Y 60 fydd yn dweud eu dweud

Cymru

Erbyn Mawrth 3 fe fydd y dadlau, yr ymgyrchu a'r pleidleisio drosodd.

Mi fydd canlyniad y bleidlais am bwerau deddfu'r Cynulliad Cenedlaethol yn nwylo'r etholwyr.

Ac wedi'r pleidleisio ar Fai'r 5 mi fydd tynged y pleidiau a'r 60 aelod o'r Cynulliad Cenedlaethol yn eich dwylo chi.

Dyna'r rheswm pam i ni sefydlu Cynulliad y Bobol er mwyn clywed barn cymaint o etholwyr â phosibl.

Does gan y cynulliad hwn ddim cartref, does 'na ddim Siambr Drafod na chyflog.

60 o etholwyr

Mae hwn yn ymwneud â 60 o etholwyr fydd ar deledu, radio ac ar-lein yn rhannu eu barn ac i ddweud eu dweud.

Mi fydd rhai yn gofyn cwestiynau bachog i'r carfannau Ie a Na. Does dim rhwystrau ar yr hyn y gallan nhw ei ofyn.

Yr hyn sy'n bwysig yw bod eu barn nhw yn cael ei chlywed yn hytrach na'r hyn sydd gan y gohebwyr a'r sylwebyddion i'w ddweud.

Fydd gan rai ddim clem am yr hyn mae'r pleidleisio yn ei olygu ac felly eu gorchwyl hwy fydd gofyn cwestiynau.

I eraill, pwrpas y cyfan fydd cael mwy o wybodaeth ynglŷn â rhywbeth sy'n eu corddi. Cyfle felly i holi'r gwleidyddion i geisio cael ateb.

17 oed

Gwell gan eraill fydd cyfrannu o gyfrifiadur adref. Mae'r aelod ieuengaf o Gynulliad y Bobol yn 17 oed, yn rhy ifanc i bleidleisio ar Fawrth 3 ond mi fydd yn pleidleisio ym mis Mai.

Wythdeg pedair oed yw'r hynaf ar y panel felly â phrofiad oes o fwrw pleidlais.

Mae 'na bobol o bob cwr o Gymru yn Nghynulliad y Bobol, 12 o bob un o'r pum rhanbarth etholiadol.

Mae llond dwrn yn aelod o blaid wleidyddol ond y mwyafrif ddim.

Gogledd Cymru

Canolbarth a Gorllewin Cymru

Gorllewin De Cymru

Canol De Cymru

Dwyrain De Cymru



REFFERENDWM
DIWRNOD Y CYFRI

NEWYDDION YR YMGYRCH
CEFNDIR
CYNULLIAD Y BOBOL
CF99
GWYLIWCH
LANSIO


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific