Roedd cwmni BP wedi dweud eu bod yn bryderus am 'oedi' Llywodraeth y Cynulliad
|
Mae cwmni BP wedi croesawu cadarnhad Llywodraeth y Cynulliad y byddan nhw'n helpu cyllido campws gwyddoniaeth ac arloesedd gwerth £400 miliwn. Roedd y cwmni wedi dweud eu bod yn poeni oherwydd "oedi" Llywodraeth y Cynulliad wrth lenwi bwlch cyllido o £15 miliwn ar gyfer cynllun Prifysgol Abertawe. Ar un adeg roedd y cwmni, sy wedi cynnig tir a chyllid ar gyfer y campws allai greu miloedd o swyddi, wedi awgrymu bod y cynllun "mewn perygl difrifol". Ond mae'r Dirprwy Brif Weinidog, Ieuan Wyn Jones, wedi cadarnhau fod swm o £15 miliwn wedi ei gytuno mewn egwyddor. Yn ôl y brifysgol, hwn yw'r prosiect mwya' o'i fath ym Mhrydain ac un o'r rhai mwya' yn Ewrop. Dywedodd llefarydd ar ran y cwmni: "Rydym ni'n croesawu'r datblygiad sylweddol yma ac yn edrych ymlaen i weithio gyda Llywodraeth Cynulliad Cymru a Phrifysgol Abertawe wrth i'r prosiect cyffrous hwn fynd ymlaen i'r cam nesaf." Masnachol Y nod yw y bydd Campws Gwyddoniaeth ac Arloesi'r Bae ar Ffordd Fabian yn rhoi cyfle i ymchwilwyr academaidd gydweithio â chwmnïau er mwyn datblygu syniadau o fudd i'r economi. Byddai'r ganolfan ymchwil a thechnoleg yn caniatáu i'r brifysgol gydweithio â chwmnïau fel Rolls-Royce. Mae disgwyl y byddai'n cyfrannu mwy na £3 biliwn i economi'r rhanbarth dros gyfnod o 10 mlynedd. Dywedodd Ieuan Wyn Jones: "Rydw i'n falch o ddweud ein bod yn cefnogi cynlluniau ar gyfer ail gampws a'n bod yn y broses o gwblhau'r trefniadau gyda'n partneriaid i fynd ymlaen â cham cyntaf y prosiect.
"Bydd ein cyllid cyfalaf ar gyfer adeiladu'r prosiect, wrth gwrs, yn ddibynnol ar y brifysgol yn dangos ei allu i gyllido gweithrediad parhaus y prosiect. "Mae manylion pellach y prosiect yn cael eu trafod gyda'n partneriaid ac rydym ni'n cadarnhau manylion yr achos busnes a'r manylion cytundebol gyda'n partneriaid." 'Adfywio'r economi' Dywedodd yr Athro Iwan Davies Dirprwy Is-Ganghellor Prifysgol Abertawe a chyfarwyddwr prosiect y campws: "Rydyn ni wrth ein boddau fod y Dirprwy Brif Weinidog wedi gallu gwneud cyhoeddiad cyhoeddus ar yr adeg hwn. "Mae'r Dirprwy Brif Weinidog wedi bod yn gefnogol drwy gydol y broses ac rydyn ni wedi cael cysylltiad parhaus a thrafodaethau manwl gyda'r swyddogion yn ogystal â'n partneriaid.
"Gyda'r cyhoeddiad hwn gallwn gynyddu ymdrechion i gyflwyno un o'r prosiectau economi gwybodaeth mwyaf yn Rhaglen Adfywio'r Economi." Fe fydd y campws ar faes bron 70 erw, ryw ddwy filltir a hanner o ganol Abertawe yn ymyl Ffordd Fabian. Ac fe fydd lle i 4,000 o fyfyrwyr fyw ar y campws.
|