British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Iau, 27 Ionawr 2011, 06:57 GMT
300 o swyddi ynni newydd

Cwmni Sharp
Fe fydd y cwmni'n cynhyrchu 3,000 o baneli solar ychwanegol bob dydd

Mae cwmni Sharp wedi dweud y byddan nhw'n creu 300 o swyddi newydd yn eu ffatri paneli solar yn Wrecsam.

Daw'r swyddi wedi i'r cwmni fuddsoddi cyfanswm o £20 miliwn yn y ffatri ac fe fydd y gweithlu'n cynyddu o 800 i 1,100.

Sharp yw cynhyrchydd paneli solar mwyaf Ewrop ond bydd y cyhoeddiad yn golygu dyblu maint eu cynnyrch i 500 MW y flwyddyn o fis Mawrth 2011 ymlaen - digon i greu ynni ar gyfer 170,000 o gartrefi.

Fe fydd y cwmni'n cynhyrchu 3,000 o baneli solar ychwanegol bob dydd - o 5,000 i 8,000.

Dywedodd Pennaeth Gwerthiant Rhyngwladol Sharp, Andrew Lee: "Mae creu'r swyddi yn dangos yr awydd i gael ynni solar yn y DU, ac yn dangos bod potensial anferth am dwf yn y sector."

Bu Sharp yn cynhyrchu paneli solar yn Wrecsam ers 2004 ar gyfer cartrefi a busnesau.

Mae'r cwmni hefyd yn datblygu canolfan yn y ffatri er mwyn addysgu pobl am ynni adnewyddol.

Strategaeth swyddi werdd

Mae Cyfeillion y Ddaear Cymru wedi croesawu'r cyhoeddiad gan ddweud y bydd yn rhoi hwb i economi werdd Cymru ac yn helpu i dorri allyriadau sy'n newid yr hinsawdd.

Ychwanegodd Gordon James, Cyfarwyddwr Cyfeillion y Ddaear Cymru: "Bydd hyn hefyd yn helpu Llywodraeth Cynulliad Cymru i gyflawni uchelgais ei strategaeth swyddi werdd.

"Mae swyddi o'r fath yn hanfodol bwysig pan fod cynifer yn cael eu colli. Does dim amheuaeth fod economi werdd yn llwybr i ddyfodol llwyddiannus a ffyniannus yng Nghymru."

Roedd Sharp wedi dweud bod cyfraddau 'bwydo-i-mewn', sef y cynllun sy'n talu pobl am ynni maen nhw'n ei greu ar raddfa fechan adnewyddol, wedi rhoi hwb i'r diwydiant solar.

Mewn ymateb i hynny dywedodd Cyfeillion y Ddaear fod yn rhaid i Ysgrifennydd y DU ar Ynni a Newid Hinsawdd, Chris Huhne, sefyll yn gadarn i ehangu ar y system gyfraddau "fel y gall y DU gael budd sylweddol o ddiwydiant solar o'r radd flaenaf" er gwaethaf beirniadaeth gan y Trysorlys a chwmnïau ynni mawr.



HEFYD
'Ehangu i greu nifer o swyddi'
29 Gorff 10 |  Newyddion
90 swydd i greu paneli haul
02 Gorff 04 |  Newyddion


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific