British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Iau, 27 Ionawr 2011, 10:11 GMT
Cynlluniau ar gyfer parc solar yng Nghwm Gwendraeth

Paneli Solar
Caiff trigolion Cwm Gwendraeth glywed mwy am y cynlluniau

Mae cynlluniau ar gyfer parc solar yn cael eu harddangos yn Neuadd y Tymbl yng Nghwm Gwendraeth.

Fe gafodd cais cynllunio ei gyflwyno ar gyfer 10,000 o baneli solar ar safle hen waith glo Cynheidre.

Y bwriad yw cynhyrchu trydan ar gyfer cartrefi yn yr ardal.

Daw'r cais dros 50 mlynedd ers i'r gwaith glo agor ar y safle.

Pan agorodd Glofa Cynheidre yng Ngwm Gwendraeth yn 1954 roedd yn cyflogi cannoedd.

Yn ei anterth, roedd y safle'n cynhyrchu dros 470,000 tunnell o lo ac yn cyflogi bron i 1,500 o weithwyr.

Arddangosfa

Yn 1989 fe wnaeth y gwaith gau ac erbyn hyn mae 'na fwriad i gynhyrchu math arall o ynni ar y safle.

Mae 'na gais hefyd i godi parc tebyg yn Ffoslas ger Trimsaran, gyda 20,000 o baneli solar yno.

Nos Iau fe fydd yr arddangosfa yn Neuadd y Tymbl yn gyfle i weld a chael gwybod mwy am y cynlluniau.

"Dwi'n credu bod hi'n bwysig i'r bobl gael gweld y cynlluniau," meddai Owain Enoch, clerc Cyngor Cymuned Llanon.

"Roedd 'na gais sawl blwyddyn yn ôl i gael safle compostio a lot o ofid yn gymuned am hyn.

"Felly fe fydd y noson yma yn gyfle i siarad efo'r datblygwyr."

Dywed Huw Richards, cyfarwyddwr grŵp Walters, sy'n berchen ar y safle, mae mawr angen cynllun ar y raddfa hon.

"Mae'r cwmni yn edrych ar sawl agwedd o ynni, glo brig, melinau gwynt a phaneli solar.

"Yr un hawsaf yw hyn, ddim yn dod a llawer o waith ond rhaid i bobl sylweddoli bod rhaid i'r ynni ddod i rywle."

Fe fydd y cais cynllunio yn cael ei ystyried ddiwedd mis Chwefror.



HEFYD
Mwy o barciau paneli solar i Gymru
22 Ion 11 |  Newyddion


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific