British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Mercher, 26 Ionawr 2011, 18:02 GMT
Dadorchuddio lluniau o Rhodri Morgan

Llun o Rhodri Morgan
Mae'r llun yma o Rhodri Morgan i'w weld yn Y Senedd

Mae dau ddarlun o gyn-Brif Weinidog Cymru, Rhodri Morgan, wedi cael eu comisiynu i gofnodi ei gyfraniad i fywyd cyhoeddus Cymru.

Fe fydd y lluniau yn cael eu harddangos yn y Cynulliad Cenedlaethol yng Nghaerdydd ac yn y Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth.

Mae un ohonyn nhw yn dangos Mr Morgan a'i gi labrador William Tell a'r llall ohono wrth ei ddesg yn y swyddfa.

Dywedodd yr artist David Griffiths bod Aelod Cynulliad Gorllewin Caerdydd yn "falch iawn" o'r gwaith gorffenedig.

Fe fydd y darlun o Mr Morgan a'i gi yn cael ei ddadorchuddio yn y Senedd nod Fercher.

Mae'r llun wedi cael ei dalu drwy gyfaniadau gan wleidyddion, pobl busnes a phobl o'r byd chwaraeon.

Enwogion

Fe wnaeth Mr Morgan eistedd ar gyfer y lluniau yn ei gartref ac yn stiwdio'r artist dros gyfnod o rai misoedd.

Daeth Mr Griffiths yn amlwg ar ôl darlunio Tywysog Cymru yn cael rhyddfraint Dinas Caerdydd yn 1969.

Ymhlith enwogion eraill mae o wedi eu portreadu y mae Barry John a Joe Calzhage.

"Roedd cael y comisiwn i ddarlunio Rhodri Morgan yn anrhydedd arbennig iawn a dwi'n cael fy swyno gan ei straeon a'i hanesion.

Llun o Rhodri Morgan
Fe fydd y llun yma i'w weld yn y Llyfrgell Genedlaethol

"Roedd yn fraint ei ddarlunio."

Dywedodd y Dirprwy Lefarydd, Rosemary Butler, bod Mr Morgan wedi chwarae rhan allweddol o hanes modern Cymru.

"Roedd ei edmygwyr yn credu y dylai gael cydnabyddiaeth drwy gael darlun wedi ei arddangos yn gyhoeddus," meddai'r un arweiniodd yr ymgyrch i gael y gwaith wedi ei wneud.

"Roeddwn i'n hynod o falch o'r ymateb i'r apêl a dwi'n siŵr y bydd pawb yn falch o'r darlun."

Dywedodd Andrew Green, Prif Lyfrgellydd y Llyfrgell Genedlaethol bod sawl un o ddarluniau David Griffiths yn y llyfrgell, darluniau o Bryn Terfel, Gwynfor Evans a Syr Geraint Evans.

"Mae'n addas bod y cyn-Brif Weinidog nawr yn rhan o'r casgliad pwysig yma," ychwanegodd.

Fe fydd y darlun yn y llyfrgell yn cael ei ddadorchuddio ddydd Sadwrn, pan fydd 'na ddiwrnod agored yno.



HEFYD
Portread o Rhodri Morgan
07 Rhag 09 |  Newyddion
Anrhydedd i gyn Brif Weinidog
19 Gorff 10 |  Newyddion
Rhodri'n ildio'r awenau
08 Rhag 09 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific