British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Mercher, 26 Ionawr 2011, 11:00 GMT
Ynni gwynt: Cyhoeddi rhestr o wyth

Dehongliad artist o Fferm Wynt Gwynt y Môr
Dehongliad artist o Fferm Wynt Gwynt y Môr

Mae Ofgem, y corff sy'n rheoleiddio'r diwydiant ynni, wedi cyhoeddi rhestr o gwmnïau fydd yn cael ymgeisio i redeg tair fferm wynt ger arfordir Prydain.

Un o'r tair yw Gwynt-y-Môr sy'n cael ei hadeiladu ger Llandudno yng Nghonwy.

Mae'r ddwy arall yn Sir Lincoln a Llundain.

Bydd y tair ymhlith ffermydd gwynt mwya'r DU, yn cynhyrchu 1.4GW o ynni adnewyddol.

Cam nesa'r broses fydd dewis rhestr fer o ymgeiswyr erbyn y gwanwyn cyn cyhoeddi'r cwmnïau buddugol - yn haf 2011 ar gyfer y ddwy yn Lloegr ond ychydig yn hwyrach yn achos Gwynt-y-Môr gan nad yw'r gwaith adeiladu yno wedi dechrau mor fuan â'r lleill.

Cwmnïau

Yr wyth sy wedi cyrraedd ail rownd y broses dendro yw:-

• Balfour Beatty Capital;

• Blue Transmission (consortiwm o dri chwmni - Macquarie Capital, Barclays Infrastructure Funds Management a Frontier Power);

• Cheung Kong Infrastructure Holdings/Hong Kong Electric International;

• Green Energy Transmission (consortiwm o ddau gwmni - Equitix ac AMP Capital Investors);

• Mitsubishi Corporation;

• National Grid Offshore;

• Transmission Capital (consortiwm o dri chwmni - Transmission Capital, International Public Partnerships ac Amber Infrastructure);

• Ventran Consortium (consortiwm o ddau gwmni - BRITEL Fund Trustees ac Universities Superannuation Scheme).

Cam cyntaf

Dywedodd Rheolwr Gyfarwyddwr Cynllun E-Serve Ofgem, Robert Hull: "Mae cael cynifer o ymgeiswyr cryf yn yr ail rownd yn brawf pellach bod y gyfundrefn rheoleiddio ynni'r môr yn llwyddiannus wrth ddenu buddsoddiad a denu cwmnïau newydd i'r sector."

Roedd y rownd gyntaf yn ymwneud â gwerth £1.1 biliwn o gysylltiadau cynhyrchu wedi denu buddsoddi o bron £4 biliwn.



HEFYD
Cytundeb i gwmni Albanaidd
02 Tach 10 |  Newyddion
Methu targedau ynni gwynt
26 Hyd 10 |  Newyddion
Ł2 biliwn ar gyfer fferm wynt
04 Meh 10 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific