British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Mercher, 26 Ionawr 2011, 09:42 GMT
Ysgolion: Y bwlch wedi tyfu

Disgybl yn darllen
Mae rhai ysgolion eisoes wedi bod yn cymharu cyllidebau.

Mae ffigyrau newydd yn dangos fod y bwlch ariannu disgyblion ysgol rhwng Cymru a Lloegr wedi tyfu o bron 15%.

Y llynedd roedd ysgolion Cymru yn derbyn £527 yn llai am bob disgybl.

Wth gyhoeddi'r ystadegau, dywedodd Llywodraeth y Cynulliad nad oed hi'n bosib gwneud cymhariaeth uniongyrchol o ffigyrau diweddaraf Cymru a Lloegr am fod Lloegr wedi newid y dull o ddosbarthu arian i fyd addysg yno.

Ond mae'r ffigyrau gyhoeddwyd fore Mercher yn dweud fod y bwlch bellach yn £604.

Ar gyfartaledd fe wariodd awdurdodau lleol Cymru £5,595 ar bob disgybl mewn ysgolion yn 2009/10.

Mae hyn yn cymharu â £6,200 yn Lloegr - £6,007 os nad yw Llundain yn cael ei gynnwys.

Mae hynny'n cyfateb i wariant o £850 yr un i'r holl boblogaeth - mae'r gwariant yn Lloegr yn cyfateb i £858 y pen.

Roedd llai o ddisgyblion yn ysgolion y ddwy wlad yn ystod 2009/10 - 0.8% yn llai yng Nghymru ac 1% yn llai yn Lloegr nag yn y flwyddyn flaenorol.

Addewid

Gall penaethiaid, athrawon, rhieni a phlant weld yr effaith o ddydd i ddydd gydag adeiladau anaddas a phrinder adnoddau
Dr Philip Dixon

Fe wnaeth y Prif Weinidog, Carwyn Jones, addewid y byddai ariannu ysgolion yn flaenoriaeth gyllidebol.

Yn gynharach yn y mis, daeth cadarnhad bod prifysgolion Cymru yn derbyn bron i £80 miliwn yn llai na sefydliadau cyfatebol yn Lloegr.

Yna ddydd Mawrth, dywedodd y corff arolygu, Estyn, nad oedd safonau mewn tua thraean o ysgolion Cymru yn ddigon da.

Mae ystadegau eraill sydd eisoes wedi eu cyhoeddi yn dangos y bydd gwariant ar addysg yng Nghymru wedi codi o 3.2% yn ystod 2010-11.

Yng Nghymru, mae 75% o'r gwariant hwnnw yn cael ei ddosbarthu'n uniongyrchol i'r ysgolion, gyda'r awdurdodau lleol yn dal y gweddill yn ganolog.

Yn Lloegr, mae'r ffigwr yna yn 90%.

Ymateb

Wrth ymateb i'r ffigyrau, dywedodd Dr Philip Dixon o undeb athrawon yr ATL:

"Mae'r ffigyrau yn syfrdanol - rydym wedi mynd tu hwnt i'r £600 sy'n bwysig yn seicolegol.

"Rhaid mai hyn yw'r man gwaethaf erioed i fater gwario ar addysg yng Nghymru.

"Er nad ddylai'r ffigyrau rhwng y ddwy wlad gael eu cymharu'n uniongyrchol, mae maint y bwlch yn brawf nad yw ysgolion Cymru yn derbyn yr un cyllid ag y maen nhw yn Lloegr.

"Gall penaethiaid, athrawon, rhieni a phlant weld yr effaith o ddydd i ddydd gydag adeiladau anaddas a phrinder adnoddau.

"Mae'r bwlch yma yn etifeddiaeth gweinidogion addysg y gorffennol oedd yn gwrthod cydnabod ei fod yn bodoli.

"Rhaid i'r glymblaid ym Mae Caerdydd ganolbwyntio'u hegni ar sicrhau bod llawer mwy o arian yn cyrraedd y rheng flaen ac y byddwn yn gweld y bwlch yn cau o flwyddyn i flwyddyn.

"Mae dyfodol Cymru yn dibynnu ar hynny."

'Heb gadw at ei air'

Dywedodd llefarydd y Ceidwadwyr ar addysg, Paul Davies AC:

"Pan ddechreuodd y Prif Weinidog ar ei swydd, fe addawodd gwell cyllid i ysgolion Cymru er mwyn cywiro'r diffyg buddsoddiad gan lywodraethau Llafur y gorffennol yn y Cynulliad.

"Bydd rhieni, athrawon llywodraethwyr a disgyblion yn siomedig bod y ffigyrau'n dangos nad yw wedi cadw at ei air.

"Ni ddylai pobl ifanc Cymru orfod diodde' safonau addysgol is na'r rhai sy'n byw dros y ffin yn Lloegr.

"Mae cyfres o adroddiadau a chymariaethau yn dangos bod Cymru ar waelod y tabl yn y DU am ddarllen, mathemateg a gwyddoniaeth, tra bod safonau mewn nifer o ysgolion ddim yn ddigon da er gwaetha' ymroddiad ein hathrawon.

"Rhaid sicrhau bod yr arian yn cyrraedd y rheng flaen yn hytrach na chael ei lyncu gan awdurdodau lleol, a dyna pam y byddai'r Ceidwadwyr Cymreig yn rhoi'r arian i ysgolion yn uniongyrchol gan roi rheolaeth iddyn nhw."

'Amharodrwydd'

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth y Cynulliad:

"Ers 1999 mae gwariant addysg awdurdodau lleol wedi cynyddu o 81.3%, neu 6.1% bob blwyddyn ar gyfartaledd.

"Er ei bod hi'n anoddach gwneud cymhariaeth ystadegol rhwng Cymru a Lloegr, rydym yn derbyn bod yna fwlch yn 2009/10 (o safbwynt arian y pen i bob disgybl).

"Dros y blynyddoedd, mae'r bwlch wedi gwaethygu oherwydd amharodrwydd awdurdodau lleol i sicrhau bod yr arian yn cyrraedd yr ystafell ddosbarth.

"Yn dilyn pwysau gan y Gweinidog Addysg, mae'r broblem yma'n cael ei datrys.

"Mae awdurdodau lleol wedi cytuno i gynyddu'r canran o arian sy'n cael ei wario gan yr ysgolion eu hunain o'r 75% a bennwyd ar gyfer 2010/11 i 80% o fewn dwy flynedd, ac yna i 85% o fewn pedair blynedd.

"Bydd hyn yn cynyddu'r canran o wariant addysg sy'n cael ei reoli yn y rheng flaen.

'Amddiffyn cyllidebau'

"Yn ogystal, mae addewid y Prif Weinidog i amddiffyn cyllidebau ysgolion o 1% yn uwch na'r grant bloc wedi ei gadw, ac wedi ei gynnwys yng nghyllideb ddrafft Llywodraeth y Cynulliad ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf.

"Mae'n bryd nawr i'r awdurdodau lleol chwarae eu rhan hwythau.

"Mae llunio polisi addysg yn fwy na dim ond penderfynu faint i wario.

"Mae yna wledydd sy'n gwneud yn llawer gwell na Chymru yn adroddiad diweddar PISA ond sy'n gwario llai ar addysg."



HEFYD
Safonau ysgolion: 'Lle i wella'
25 Ion 11 |  Newyddion
Perfformiad yn 'annerbyniol'
07 Rhag 10 |  Newyddion
Ysgolion Cymru "ar ei hôl hi"
02 Tach 10 |  Newyddion
'Adeiladau ysgolion yn anaddas'
14 Gorff 10 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific