Mae GE Aviation yn cyflogi 1,100 yn eu safle yn Natgarw
|
Mae disgwyl i'r Prif Weinidog, Carwyn Jones, gyhoeddi y bydd 100 o swyddi newydd yn cael eu creu gan gwmni GE Aviation yn Nantgarw, Rhondda Cynon Taf. Ar drothwy'r cyhoeddiad, dywedodd Mr Jones a Adrian Button - rheolwr y cwmni - y byddai'r swyddi'n rhai sy'n gofyn am sgiliau da. Natur y busnes yw gwneud gwaith cynnal a chadw ar beiriannau awyrennau. Dywed y cwmni bod y swyddi newydd wedi eu creu oherwydd twf y gwaith ar beiriant y GE90, a welodd werthiant o bron $2 biliwn yn ystod 2010. Mae'r cwmni hefyd yn darogan y gallai'r ffigwr fod yn uwch yn 2011. Hanes y cwmni Mae'r safle yn Nantgarw yn gwneud gwaith cynnal a chadw ar beiriannau awyrennau, ac mae gwaith o'r fath wedi cael ei wneud ar y safle ers 1924. Cafodd ei ddefnyddio at bwrpas milwrol yn ystod yr Ail Rhyfel Byd, ac yn ddiweddarach bu peiriannau Concorde yn cael eu trin yno.
Mae'r cwmni'n gwneud gwaith ar beiriannau awyren fawr yr Airbus A380.
|
20 mlynedd yn ôl, fe brynwyd y safle oddi wrth gwmni BA, a oedd yn arfer gweithio ar eu peiriannau nhw yn Nantgarw. Erbyn hyn, mae'r safle yn cyflogi 1,100 o bobl, ac yn cynnig prentisiaethau sy'n para am dair blynedd. Mae'r cwmni yn talu cyflog o £40,000 ar gyfartaledd. Mae pencadlys GE Aviation yn Cincinnati yn America, ac mae ganddynt bedwar o ffatrïoedd cynnal a chadw drwy'r byd - Nantgarw yw un o'r mwyaf. Mae'r ffatri yn gweithio ar bedwar math gwahanol o beiriannau i awyrennau :- • GE90 - ar gyfer y Boeing 777 (sydd hefyd yn cael ei wneud gan GE); • CFM56 - ar gyfer awyrennau Easyjet; • GP7200 - ar gyfer awyrennau mawr yr Airbus A380; • RRS Legacy - ar gyfer BA gan Rolls Royce. Eu prif gwsmeriaid yw cwmnïau Etihad ac Emirates o'r dwyrain canol ac oherwydd hynny, yn rhannol, ni chafodd y dirwasgiad fawr o effaith ar y cwmni. Erbyn heddiw mae'r llyfr archebion yn llawn am weddill y flwyddyn. Bydd y cyhoeddiad swyddogol yn cael ei wneud yn y senedd am 12:00pm ddydd Mercher.
|