British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Mawrth, 25 Ionawr 2011, 18:28 GMT
Sinema'n cau am y tro olaf?

Sinema'r Coliseum, Porthmadog
Bu'r sinema dan fygythiad yn 2007 yn ogystal.

Gallai sinema Porthmadog gau am y tro olaf y penwythnos yma wrth i'r gwirfoddolwyr fu'n rhedeg y lle gael trafferth cael dau ben llinyn ynghyd.

Prinder cwsmeriaid - sydd hefyd oherwydd yr hinsawdd economaidd o bosib - sy'n cael y bai am drafferthion sinema'r Coliseum.

Bydd yr olaf o'r ffilmiau presennol yno yn cael ei dangos dros y penwythnos, ond mae bwriad ailagor yn y gwanwyn os daw mwy o roddion ariannol i'r coffrau, a mwy o wirfoddolwyr.

Cafodd y sinema ei ailagor yn 2007 yn dilyn apêl i achub y lle rhag cau.

Llwyddwyd i godi £14,000 i drwsio boiler yr adeilad a gwneud gwaith adnewyddu, ac fe gafwyd 200 o seddi 'newydd' i'r Coliseum gan i sinema'r Plaza ym Mangor gau tua'r un adeg.

42 milltir

Dywedodd ysgrifennydd y sinema, Eryl Morris, fod llai o bobl yn dod yno yn bygwth y sinema unwaith eto.

Dywedodd fod yn well gan bobl yr ardal fynd i sinema Cyffordd Llandudno 42 milltir i ffwrdd yn ystod y gaeaf, ond yn ystod misoedd yr haf roedd twristiaid yn rhoi hwb sylweddol i'r ffigyrau.

"Yn y gorffennol," meddai, "mae hynny wedi'n cadw ni i fynd drwy fisoedd y gaeaf, ond nid y tro hwn.

"Nid elusen mohonom ac felly nid ydym yn medru denu grantiau ac rydym yn gwbl ddibynnol ar arian drwy'r drysau.

"Byddai'n braf cael mwy o wirfoddolwyr i redeg y lle o ddydd i ddydd."

Er gwaetha'r ergyd, dywedodd Mr Morris mai gobaith y sinema oedd medru ailagor tua adeg y Pasg.

"Yn y cyfamser," meddai, os fedr unrhyw un roi cymorth ariannol fe fyddwn yn ddiolchgar dros ben."



HEFYD
Apl sinema yn llwyddo
01 Maw 07 |  Newyddion
Grant yn helpu sinema
21 Rhag 06 |  Newyddion


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific