British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Mercher, 26 Ionawr 2011, 07:22 GMT
Hanes China'n dod i Gymru

Buddha Sakyamuni (AD1174-1252) o Dazu, China.
Y Buddha canolog yw un o brif themâu yr arddangosfa

Bydd darnau pwysig o hanes China yn cael eu harddangos yng Nghymru am y tro cyntaf ddydd Mercher.

Fe fydd cerfluniau a gafodd eu gwneud yn y graig yn Dazu - sydd bellach yn un o Safleoedd Treftadaeth y Byd - yn ne-orllewin China yn cael eu harddangos yn yr Amgueddfa Genedlaethol.

Dyma'r tro cyntaf i'r cerfluniau o'r seithfed ganrif deithio allan o'u gwlad eu hunain.

Dywed awdurdodau China ei bod hi'n anrhydedd cael dod â'r cerfluniau i Gymru fel cam cyntaf o daith o amgylch y byd i'r creiriau.

Mae'r amgueddfa'n disgrifio'r arddangosfa fel camp a fydd yn codi ei phroffil ar y llwyfan rhyngwladol.

Taith gyntaf

Bob blwyddyn mae pum miliwn o bobl yn ymweld â Safle Treftadaeth y Byd yn Dazu ger Chongqing lle mae'r rhan fwyaf o'r 50,000 o gerfluniau wedi eu torri i mewn i'r mynydd ar 75 o safleoedd gwahanol.

Dyma'r esiampl fwyaf o gelf ogofâu crefydd Buddha, ac fe ddechreuwyd creu'r cerfluniau yn y seithfed ganrif gan barhau am dros bedwar can mlynedd.

Dywedodd Mr Zhou Bo, ynad talaith Chongqing, mai dyma'r tro cyntaf i'r cerfluniau gael eu gweld y tu allan i China, ond bod cynllun i fynd â nhw wedyn i ogledd a de America, Affrica ac Awstralia.

Y gobaith, meddai, yw dangos pwysigrwydd y safle treftadaeth "i holl ddynol ryw".

Fe gymharodd y cerfluniau i gelf hanesyddol Rhufain a Groeg, gyda llawer o'r cerfluniau yn dangos gallu rhyfeddol gan iddyn nhw gael eu torri yn y graig ger Dazu.

Mae Dazu hefyd yn enghraifft o le lle bu tair crefydd - Bwdhaeth, Conffiwsaeth a Daoistiaeth - yn cydfyw.

Cydweithio

Cerflun o Dazu yn cyrraedd yr Amgueddfa Genedlaethol.
Un o'r cerfluniau yn cyrraedd yr Amgueddfa Genedlaethol yr wythnos ddiwethaf.

Daeth yr arddangosfa yn sgil ymweliad Prif Weinidog China, Wen Jiabao, â Chymru yn 2000.

Bydd y cydweithio hefyd yn gweld creiriau o Gymru yn mynd i China yn ogystal.

Dywedodd Andrew Renton o'r Amgueddfa Genedlaethol y gallai'r arddangosfa godi proffil y sefydliad drwy'r byd.

"Byddai'r arddangosfa yma yn gwbl gartrefol yn y V&A neu'r Amgueddfa Brydeinig yn Llundain," meddai.

"Rydym yn ceisio rhoi blas i'r ymwelwyr o sut beth fyddai ymweld â Safle Treftadaeth y Byd yn Dazu, sydd yn brofiad ysgytwol go iawn.

"I mi, y Buddha canolog wrth i chi ddod i mewn i'r arddangosfa yw'r brif thema, ac yn rhoi blas go iawn o'r hyn yw safle Bwdhaeth."

Bydd yr arddangosfa i'w gweld yn yr Amgueddfa Genedlaethol o ddydd Mercher, Ionawr 26 tan ddydd Sul, Ebrill 3.



HEFYD
Toriadau i sefydliadau cenedlaethol
19 Tach 10 |  Newyddion
Amgueddfa'n prynu llun 'eiconig'
11 Awst 10 |  Newyddion
Amgueddfeydd: Mwy o ymwelwyr
22 Meh 10 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific