British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Llun, 24 Ionawr 2011, 13:56 GMT
Trafod cynlluniau i adfywio un o drefi'r canolbarth

Aberystwyth
Bydd peth o'r arian yn cael ei wario ar lan mr y dre'

Mae trigolion un o drefi'r canolbarth yn cael cyfle i leisio'u barn am gynlluniau i adfywio'r dre'.

Ddydd Llun a dydd Mawrth bydd trigolion Aberystwyth yn mynegi barn am welliannau yr hoffen nhw eu gweld yno.

Ym mis Hydref daeth Aberystwyth yn Ardal Adfywio Strategol a chyhoeddodd Llywodraeth y Cynulliad y byddai £10.3m ar gael.

Y nod yw gwella tai a hybu'r economi, swyddi a busnesau lleol.

Dywedodd y llywodraeth y byddai'r arian ar gyfer gwella cyflwr y dre' a'r prom ac yn hwb i deithio cynaliadwy.

Yn ôl y Cynghorydd Ceredig Davies, sy'n cynrychioli Aberystwyth ar Gyngor Sir Ceredigion: "Mae Aberystwyth yn un o brif drefi canolbarth Cymru ac efo'r holl sefydliadau sydd yn y dre' yma, rwy'n credu'i bod hi'n hanfodol bod pwysigrwydd Aberystwyth yn cael ei gydnabod, ei fod yn lleoliad mor arwyddocaol."

Erbyn hyn, mae cam nesa'r rhaglen strategol ar gychwyn a bydd £500,000 ar gael i wella cyflwr tai yn y dre'.

'Pethau bach'

"Oherwydd amser falle mae rhai nodweddion o flan tai wedi diflannu, er enghraifft rheiliau ...," meddai'r cynghorydd.

"Byddwn ni'n fodlon edrych mor fanwl â hynny ar y pethau bach. Mae'r pethau bach 'na yn bwysig i sut mae'r dre'n edrych."

Cafodd cylchlythyr ei anfon i drigolion yn ddiweddar yn cyfeirio at yr adfywiad, yn ogystal â holiadur am eu syniadau ar sut i wella'r dre' a'i chyfleusterau.

Mae cyfleoedd i gynnig syniadau i swyddogion y cyngor mewn cyfarfodydd yng Nghanolfan Morlan, Aberystwyth, ddydd Llun a dydd Mawrth am 10am.



HEFYD
Hwb o 10m er mwyn adfywio tre
20 Maw 10 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific