British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Llun, 24 Ionawr 2011, 07:52 GMT
Artist o Nefyn yn troi dywediadau yn ddarluniau

'Cān di bennill mwyn i'th Nain, fe gān dy Nain i Tithau' gan Niki Pilkington
'Cān di bennill mwyn i'th Nain, fe gān dy Nain i Tithau' gan Niki Pilkington

Mae artist ifanc o Ben Llŷn yn arddangos ei gwaith sydd wedi cael ei ysbrydoli gan ddyfyniadau ac idiomau Cymraeg.

Wedi gorffen ei chwrs mewn coleg yn Llundain a dychwelyd i Forfa Nefyn y dewisodd Niki Pilkington y thema.

"Mae idiomau yn rhan o'r iaith Gymraeg ond yn prysur ddiflannu," meddai.

"Bwriad cyfres o ddarluniau yw rhoi bywyd newydd iddyn nhw."

Mae ei 26 llun i'w gweld yn Oriel Plas Glyn y Weddw yn Llanbedrog ger Pwllheli.

"Mae'n gyfnod cyffrous iawn i mi, mae'n caniatáu i mi archwilio i'm treftadaeth drwy ddarluniau."

Gradd mewn ffasiwn sydd ganddi a dyw hi ddim wedi anghofio hynny yn ei gwaith diweddara'.

Cerddor

"Fe wnes i geisio gwneud y darluniau yn ffasiynol a chanolbwyntio ar gymeriadau modern.

"Yn Cân di bennill fwyn i'r Nain, fe gân dy Nain i dithau, nid nain draddodiadol sydd yn y llun.

Gwaith Teg yw Edrych Tuag Adref gan Niki Pilkington
Gobaith Niki Pilkington yw arddangos ei gwaith ym Mharis

"Roedd gen i syniad yn fy mhen ac fe es i ati i weithio o amgylch y geiriau."

Mae ganddi ddarlun ar y dywediad Tase'r Wyddfa'n Gaws a Teg Edrych Tuag Adref.

Mae hi wedi gosod rhai o'i gweithiau ar y we ac mae'r rhai sy'n gweithio ar DVD i gyd-fynd â darluniau albwm newydd Paul McCartney wedi dangos diddordeb yng ngwaith Niki.

Mae hi ei hun yn edmygydd o waith y cerddor ac mae hi hefyd wedi gwneud darluniau ar gyfer cyfrol newydd gan un o gyflwynwyr Channel 4, Kevin McCloud.

"Mae nifer o bobl yn cysylltu gyda mi drwy'r wefan," meddai.

"Dwi'n mynd ati i wneud gwaith gyda phensil cyn defnyddio pethau fel inc neu binnau ffelt.

"Mae'n braf gweld fy ngwaith mewn cyhoeddiadau ac mae'n braf cael amrywiaeth o bethau i'w gwneud."

Mae'r arddangosfa yn yr oriel tan Ebrill 3 ac mae'n cynnwys gwaith gan Elfyn Lewis a Gareth Parry hefyd.



CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific