Mae pobl leol yn pryderu am lifogydd ac am system garthffosiaeth y datblygiad
|
Fe fydd 355 o dai yn cael eu codi ar hen safle Parc y Strade wedi'r cyfan. Wedi brwydr gynllunio hir mae Llywodraeth y Cynulliad wedi cadarnhau nad ydyn nhw am fwrw ymlaen i ystyried pryderon trigolion lleol am y datblygiad. Fe fydd cynghorwyr Sir Gaerfyrddin yn gallu penderfynu ar y cais cynllunio heb ymyrraeth Llywodraeth y Cynulliad. Mae cwmni Taylor Wimpey wedi dweud eu bod yn edrych ymlaen at ddechrau'r gwaith yn 2011. Ond dywedodd ymgyrchwyr yn erbyn y datblygiad bod eu pryderon am lifogydd a'r system garthffosiaeth yn parhau a bod eu ffydd yn y broses gynllunio "wedi ei chwalu". 'Ystyriaeth ofalus' Wedi ymchwiliad a barodd am wythnos rhoddwyd caniatâd cynllunio amlinellol yn 2007 a gwnaed cais manwl am 355 o dai y llynedd. Ond cafodd ei alw i mewn gan Lywodraeth y Cynulliad oherwydd pryderon am lifogydd. Dywedodd Llywodraeth y Cynulliad eu bod yn cydnabod y byddai penderfyniad y Gweinidog Amgylchedd, Jane Davidson, i ryddhau'r cais yn siomi nifer o bobl ond dywedodd ei bod hi wedi rhoi "ystyriaeth ofalus iawn" i'r mater. "Mae'r gweinidog wedi rhoi ei phenderfyniad ar y cais i alw'r mater i mewn ac, yn hynny o beth, nid oes ganddi unrhyw awdurdod dros y ceisiadau hynny," meddai.
Dywedodd Keith Simmons, rheolwr gyfarwyddwr Taylor Wimpey De Cymru: "Dros y ddwy flynedd a hanner ddiwethaf rydym ni wedi cydweithredu'n llawn â Llywodraeth y Cynulliad ac wedi ateb pob mater y maen nhw wedi bod yn gysylltiedig ag e. "Rydym ni'n fodlon ar y canlyniad hwn ac yn edrych ymlaen at ddechrau'r gwaith datblygu yn ystod 2011, gan helpu creu swyddi a gweithgarwch economaidd yn Llanelli." Bydd y cais bellach yn cael ei benderfynu gan Gyngor Sir Caerfyrddin. Mae'r swyddogion wedi dweud yn y gorffennol y bydden nhw'n argymell cymeradwyo'r cais. Dywedodd Cyfarwyddwr Adfywio a Hamdden Sir Gaerfyrddin, Dave Gilbert: "Y cyngor sydd nawr i benderfynu ar y cais gan fod y gweinidog yn credu ei fod yn fater o arwyddocâd lleol yn unig. 'Chwalu ffydd' "Mae'r cyngor yn falch ei fod mewn sefyllfa i ddatrys hyn wedi cyfnod mor hir o oedi." Dywedodd fod y pwyllgor cynllunio eisoes wedi cymeradwyo'r cynllun, yn ddibynnol ar benderfyniad Llywodraeth y Cynulliad, ac felly na fyddai'n mynd yn ôl o flaen y pwyllgor. Ond mae'r Cynghorydd Sirol Sian Caiach wedi dweud bod ffydd pobl leol yn y cynulliad wedi ei "chwalu". "Nid yw'r tai newydd yma yn hanfodol i adfywiad economaidd y dref ...," ychwanegodd. Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth y Cynulliad: "Fe wnaeth Taylor Wimpey anfon llythyr atom yn egluro eu bod yn ystyried mynd â ni i'r llys. "Roedd eu hanghytundeb ynghylch y broses a'r cyfnod o amser roedd e'n cymryd i wneud y penderfyniad yn hytrach nag am be fyddai'r penderfyniad. "Fe wnaeth Taylor Wimpey roi dedlein i ni ateb ond fe wnaethon ni wneud ein penderfyniad terfynol cyn hynny".
|