British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Gwener, 21 Ionawr 2011, 11:04 GMT
M4: Teyrngedau i'r teulu

Thomas a Stephen Padden a babi Logan
Thomas a Stephen Padden a babi Logan

Mae teulu'r rhai gafodd eu lladd mewn damwain ar yr M4 ddydd Llun wedi bod yn rhoi teyrnged iddyn nhw.

Bu farw Stephen Padden, 56 oed, ei fab Thomas Padden, 20 oed, a'i bartner yntau Louise Evans, 23 oed, yn y ddamwain ger Caerdydd.

Llwyddodd plentyn chwe mis oed y ddau, Logan, a mam Thomas, Suzanne Padden sy'n 51 oed, i oroesi'r ddamwain.

Roedd y tri fu farw o ardal Porthcawl.

'Newid am byth'

Dywedodd mam Louise, Myra Evans: "Roedd Louise yn ferch, mam a modryb gariadus gyda chalon aur.

"Ei theulu oedd ei bywyd hi, yn enwedig Tom a babi Logan, ac mae ein bywydau ni wedi newid am byth."

Rhoddodd James a Lewis Padden a'u mam Louise deyrnged i'w tad Stephen a'u brawd Thomas.

"Dad oedd y person mwyaf anhunanol y gallech ei gyfarfod - roedd yn edrych ymlaen bob tro at dreulio amser gyda'r teulu.

"Roedd wedi dwlu ar Logan ac roedd Logan, canolbwynt ei fywyd, wedi rhoi bywyd newydd iddo.

'Colled'

Louise Evans, Thomas Padden a'u mab Logan
Louise Evans, Thomas Padden a'u mab Logan

"Roedd Tom yn frawd gwych ac fe fydd colled ar ei ôl. Roedd ei bresenoldeb yn gwneud i bobl wenu.

"Byddai'r rhai oedd yn ei nabod yn dweud bod Tom yn berson poblogaidd fyddai'n mynd allan o'i ffordd i helpu unrhyw un.

"Fe fu'n dad gwych oedd yn ffyddlon i Louise a'u mab Logan.

"Roedd Louise fel merch i ninnau hefyd. Roedd yn gymar perffaith i Tom ac fe fyddai wedi bod yn fam wych."

Roedd y teulu ar eu ffordd adref o'u gwyliau ym Moroco pan gollwyd rheolaeth ar eu car Peugeot tua 11pm nos Lun, Ionawr 17.

Mae Suzanne a Logan Padden mewn cyflwr sefydlog yn yr ysbyty.



HEFYD
Lladd tri ar ôl damwain ar yr M4
18 Ion 11 |  Newyddion


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific