British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Gwener, 21 Ionawr 2011, 08:02 GMT
Gobaith adfywio hen waith copr

Gwaith copr yr Hafod heddiw
Gwaith copr yr Hafod heddiw

Cafodd Prifysgol Abertawe ei dewis fel partner i gyngor y ddinas er mwyn datblygu gwaith copr hanesyddol yr Hafod.

Cafodd y tir ei roi ar werth y llynedd gyda'r gobaith o ddatblygu gwesty, tŷ bwyta a chartrefi ar y safle.

Ond mae'r cyngor wedi cyfadde' bod yr ymateb wedi bod yn siomedig, ac maen nhw nawr yn ceisio gweithio gyda'r brifysgol ar syniadau newydd.

Ar y safle mae adeiladau cofrestredig Gradd II sy'n dyddio nôl hyd at 200 i gyfnod hanesyddol pwysig gwaith copr Abertawe.

Dywed y brifysgol bod potensial i greu "adnodd addysgol ac ymchwil sylweddol" ar y safle.

'Anodd'

Dywedodd y cynghorydd Gareth Sullivan o Gyngor Abertawe: "Ein dyhead ers tro yw adfywio safle gwaith copr yr Hafod, ond mae amgylchiadau ariannol wedi ei gwneud hi'n anodd denu partner ar gyfer y fenter.

"Mae cyrraedd cytundeb gyda'r brifysgol yn rhoi cyfle i edrych ar ddichonolrwydd ein dyheadau i'r safle.

"Gallai hefyd arwain at adfywio'r safle gyda'r brifysgol yn defnyddio un o'r adeiladau fel adnodd addysgu."

Mae'r safle, a fydd yn nodi 200 mlwyddiant cynhyrchu'r copr cyntaf gan gwmni Vivian and Sons, yn 12 erw o faint yn agos i Afon Tawe, Stadiwm Liberty a pharc manwerthu'r Morfa.




Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific