British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Gwener, 21 Ionawr 2011, 13:00 GMT
Canolfan: 'Hyd at 900 o swyddi'

Protest wrth lansio Pontio
Roedd 16 o aelodau Cymdeithas yr Iaith yn protestio

Mae honiadau y gallai canolfan gelfyddydau ac arloesi sy'n werth £37 miliwn greu a diogelu hyd at 900 o swyddi ym Mangor.

Bydd Canolfan Pontio ym Mhrifysgol Bangor yn cynnwys theatr lle bydd hyd at 550 o seddau - ac adnoddau i helpu busnesau bach a chanolig.

Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, lansiodd y cynllun ddydd Gwener ac mae'r ganolfan i fod i agor erbyn gwanwyn 2013.

Does dim theatr wedi bod ym Mangor ers i Theatr Gwynedd gau yn Hydref 2008.

Mae Llywodraeth y Cynulliad ac Ewrop wedi cyfrannu £27.5miliwn at y cynllun.

Protest

Ond yn ystod y lansiad ym Mangor fore Gwener protestiodd 16 o aelodau Cymdeithas yr Iaith Gymraeg.

Aeth y protestwyr i'r ystafell lle oedd y Prif Weinidog, y Gweinidog Treftadaeth a Diwylliant ac uchelswyddogion y brifysgol a chwifio posteri.

Dywedodd y mudiad fod y brotest am nad oedd hysbysebion swyddi uchel y cynllun yn nodi'r angen i siarad Cymraeg mewn ardal lle mae 70% o'r boblogaeth yn siarad yr iaith.

Yn ôl Menna Machreth o'r mudiad: "Ni chawsom atebion heddiw am sefyllfa hollol warthus y Gymraeg yn y brifysgol a phrosiect Pontio.

"Mae angen adolygiad llawn o sut mae hyn wedi digwydd.

"Yn agoriad swyddogol y prosiect heddiw, fe ddylai'r Prif Weinidog fod wedi condemnio'r brifysgol am niweidio'r Gymraeg yn lleol.

"Mae'r prosiect wedi derbyn llwyth o arian cyhoeddus ond mae'r brifysgol yn anwybyddu ei dyletswyddau i'r gymuned leol unwaith eto."

'Camddealltwriaeth'

Wrth ymateb i'r brotest, dywedodd Is-Ganghellor Prifysgol Bangor, yr Athro John Hughes: "Roedd y brotest yn seiliedig ar gamddealltwriaeth.

"Dim ond dwy swydd sydd wedi eu llenwi hyd yma - fe fydd cannoedd o swyddi ar y cynllun a fydd yn rhan o'r gymuned yma ac fe fydd mwyafrif llethol y swyddi yna yn mynd i siaradwyr Cymraeg.

"O ran y ddwy swydd sydd wedi eu penodi, mae'r ddau berson wedi ymroi i ddysgu Cymraeg ac rydw i'n hyderus y bydd y ddau yn gwneud hynny'n fuan."

'Cyffrous'

Argraff artist o ganolfan Pontio
Argraff artist o ganolfan Pontio

Dywedodd y byddai 450 o swyddi'n cael eu creu neu eu gwarchod yn ystod cyfnod adeiladu'r ganolfan ac y byddai 100 yn fwy yn cael eu creu wrth i'r ganolfan ddod yn weithredol.

Fe fyddai 330 o swyddi eraill yn cael eu creu oherwydd y ganolfan arloesi, meddai.

Dywedodd dirprwy is-ganghellor y brifysgol, yr Athro Fergus Lowe: "Mae'n gyffrous iawn gweld cynllun Pontio yn dechrau o ddifri.

"Bydd yn ganolbwynt i'r gymuned leol lle gall pobl gyfarfod, dysgu a chael eu diddanu.

"Bydd yn uchafbwynt diwylliannol i Gymru."

Er hynny mae yna feirniadaeth wedi bod am na chafodd yr iaith Gymraeg ei chynnwys fel cymhwyster yn hysbyseb swydd Pennaeth Cynllun Pontio.

Dywedodd Carwyn Jones: "Bydd y cynllun yn defnyddio sgiliau lleol i greu a diogelu cannoedd o swyddi a chyfleoedd busnes a fydd yn hybu twf economaidd yn yr ardal."



HEFYD
'Ymateb positif' i brosiect
26 Rhag 10 |  Newyddion
£27.5m i ganolfan gelfyddydau
02 Rhag 10 |  Newyddion
Dechrau dymchwel Theatr Gwynedd
26 Gorff 10 |  Newyddion


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific