British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Iau, 20 Ionawr 2011, 20:52 GMT
Ymgyrch: Yn benben 'i gilydd

Y Senedd ym Mae Caerdydd
Fe fydd y refferendwm yn cael ei gynnal ar Fawrth 3

Mae aelodau blaenllaw o'r ymgyrch o blaid ac yn erbyn newid system ddeddfu'r cynulliad wedi mynd benben â'i gilydd ar y teledu nos Iau.

Roedd ymgyrch Na wedi dweud na fyddan nhw'n gwneud cais am statws swyddogol.

Mae diffyg ymgyrch swyddogol yn golygu na fydd yr un ochr yn derbyn £70,000 o arian cyhoeddus, na fydd darllediadau gwleidyddol na thaflenni am ddim drwy'r post.

Ar raglen BBC Cymru Dragon's Eye dywedodd cadeirydd yr ymgyrch Ie, Roger Lewis: "Mae'r ffaith nad oes neb yn barod i fod yn ymgyrch Na swyddogol yn siomedig iawn oherwydd mae'n rhwystro pobol Cymru rhag cael cyfleoedd pwysig i ddeall y materion dan sylw."

Fe fyddai pleidlais Ie yn arwain at "lywodraethu gwell", meddai.

Gwadu

Gwadodd Rachel Banner, llefarydd Gwir Gymru sy'n ymgyrchu yn erbyn mwy o bwerau i'r cynulliad, mai ymgais i rwystro'r ddadl oedd y tu ôl i'r penderfyniad i beidio â gwneud cais am statws swyddogol.

"Rydym eisiau dadl ddifrifol am y setliad yma ac rydym am i'r pynciau gael eu trafod yn agored.

"Fe wnaethon ni ddechrau fel mudiad gwerin gwlad, ac fe wnaethon ni barhau fel hynny a pheidio gwario arian y trethdalwyr ar ein hymgyrch."

Ynghynt roedd un o Aelodau'r Cynulliad wedi cyfeirio at "ddiwrnod trist i wleidyddiaeth a democratiaeth yng Nghymru".

Yn ôl Rhodri Glyn Thomas o Blaid Cymru, fe fyddai penderfyniad yr Ymgyrch Na yn golygu na fyddai dadl genedlaethol am y bleidlais.

Ar raglen CF99 BBC Cymru dywedodd: "Dydy Gwir Gymru ddim eisiau trafodaeth a dydyn nhw ddim eisiau ymgyrch gan eu bod yn gwybod nad oes ganddyn nhw ddadleuon."

Mae'r ymgyrch Ie, gafodd ei lansio ar Ionawr 4, wedi dweud y bydden nhw'n cysylltu â'r Comisiwn Etholiadol.

Arbed arian

Dadansoddiad
Y gred yw bod penderfyniad Gwir Gymru i beidio â sicrhau statws swyddogol yn un munud olaf.

Er y bydd Gwir Gymru ar eu colled yn ariannol, mae'n ergyd i ymgyrch Ie Dros Gymru fydd yn wynebu cyfyngiadau gwariant llymach.

Mae Ie Dros Gymru yn bwriadu trafod â'r Comisiwn Etholiadol ond dwi'n deall bod gan y grŵp gynlluniau wrth gefn os nad yw Gwir Gymru yn cyrraedd y targedau angenrheidiol i fod yn ymgyrch swyddogol.

Mae Llafur, Plaid Cymru a'r Democratiaid Rhyddfrydol yn ogystal ag Aelodau Cynulliad Ceidwadol yn cefnogi pleidlais Ie, ond mae'n bosib y bydd y pleidiau lleol yn gyfrifol am ddosbarthu taflenni ac ymgyrchu ar lawr gwlad.

Vaughan Roderick, Golygydd Materion Cymreig, BBC Cymru

Fe lansiodd Gwir Gymru eu hymgyrch nos Fercher yn Nhrecelyn ac yno fe gyhoeddon nhw na fyddan nhw'n gwneud cais i fod yn ymgyrch swyddogol.

"Mae digon o arian y bobl ... yn cael ei wario ar roi mwy o bwerau i wleidyddion," meddai Rachel Banner, cyfarwyddwr yr ymgyrch.

Dywedodd yr Athro Richard Wyn Jones, Cyfarwyddwr Canolfan Llywodraethiant Cymru, sy'n bersonol o blaid mwy o bwerau i'r cynulliad, fod penderfyniad Ymgyrch Na yn rhwystro eu gwrthwynebwyr.

"Rhaid dweud na alla i ddilyn rhesymeg y ddadl o arbed arian cyhoeddus," meddai.

"Yr hyn oedd yn mynd i ddigwydd oedd y byddai'r ddwy ymgyrch yn paratoi taflenni a'u dosbarthu yn rhad ac am ddim gan y trethdalwyr i bob pwrpas."

Dywedodd llefarydd ar ran Ie Dros Gymru mai eu blaenoriaeth fyddai "ennyn diddordeb y cyhoedd yn y refferendwm."

Wrth siarad â BBC Cymru dywedodd aelod o Gwir Gymru, Len Gibbs, nad oedden nhw'n rhoi pwyslais mawr ar gael bod yn ymgyrch swyddogol.

'Peidio â gwastraffu'

"Fe gasglon ni nad oedd angen i ni fod ac nid ydym am wneud cais i gael bod.

"Rydym wedi bod ac fe fyddwn ni'n parhau i fod yn grŵp sy'n cyflwyno'r achos drwy ddefnyddio arian y cefnogwyr yn unig.

"Ac rydym yn helpu pobl Cymru i beidio â gwastraffu arian ar rywbeth nad ydyn ni'n credu sy'n angenrheidiol."

Dywedodd nad oedd pawb yn darllen taflenni gwleidyddol nac yn gwylio darllediadau gwleidyddol.

Mae Comisiwn Etholiadol Cymru wedi cyhoeddi eu bod wedi derbyn dau gais i fod yn "brif ymgyrchwyr" y refferendwm, un Ie ac un Na.

Fe fydd y comisiwn yn gwneud cyhoeddiad a fydd 'na ymgyrchoedd swyddogol neu beidio erbyn Chwefror 2.

Ie dros Gymru sydd wedi cyflwyno cais i fod yn "brif ymgyrchydd" yr ymgyrch ac mae unigolyn, David Alwyn ap Huw Humphreys, wedi cyflwyno cais i fod yn "brif ymgyrchydd" ymgyrch Na.



REFFERENDWM
DIWRNOD Y CYFRI

NEWYDDION YR YMGYRCH
CEFNDIR
CYNULLIAD Y BOBOL
CF99
GWYLIWCH
LANSIO

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific