Dyw lein Amlwch heb gael ei defnyddio gan deithwyr ers 1964.
|
Fe fydd astudiaeth dichonolrwydd yn ystyried ailagor lein rheilffordd sydd wedi ei chau'n llwyr ers ugain mlynedd. Bydd cwmni Network Rail yn dechrau rhan gynta'r astudiaeth am ran o lein Amlwch rhwng Llangefni a Gaerwen yr wythnos nesa. Does dim teithwyr wedi defnyddio'r lein ers 1964, ond bu'n cael ei defnyddio ar gyfer cludo nwyddau tan y 90au cynnar. Bydd Network Rail yn gweithio gyda Llywodraeth y Cynulliad a Chyngor Sir Ynys Môn ar y cynllun. 'Talcen caled' Fe fydd rhaid tynnu llystyfiant o'r lein er mwyn i ecolegwyr astudio'r amgylchedd naturiol ar hyd y lein er mwyn adnabod planhigion prin y bydd rhaid eu gwarchod os fydd y lein yn ailagor. Bydd peirianwyr hefyd yn edrych ar 31 o bontydd a cheuffosydd a 4.5 milltir o drac ynghyd ag ystyried adnewyddu adeilad gorsaf Llangefni. Dywedodd Mike Gallop o Network Rail: "Dyw lein Amlwch heb gael ei defnyddio ers dau ddegawd ac fe fydd ei adfer ar gyfer defnydd teithwyr yn dalcen caled. "Heddiw yw'r cam cyntaf tuag at hynny, a gyda Llywodraeth y Cynulliad a'r cyngor sir fe fyddwn yn ystyried y posibilrwydd o wneud hynny. "Er mwyn i drenau teithwyr fedru defnyddio'r lein unwaith eto, fe fydd rhaid moderneiddio'r system signalau, trwsio ac ailosod trac, pontydd a cheuffosydd, ac fe fydd yr astudiaeth yma yn hanfodol i ni fedru ystyried ateb cost -effeithlon i'r mater." Cafodd yr astudiaeth, fydd yn ymchwilio i achos busnes dros ail-gyflwyno gwasanaethau i deithwyr rhwng Llangefni a Bangor, ei gomisiynu gan Lywodraeth y Cynulliad.
|