British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Iau, 20 Ionawr 2011, 10:17 GMT
Ail gynnau fflam ar aelwyd newydd

Meic Stevens and Liz
Mae Meic Stevens a Liz wedi ail gynnau eu perthynas wedi 47 mlynedd

Mae'r canwr Meic Stevens ar fin dechrau bywyd newydd yng Nghanada gyda hen gariad nad oedd wedi ei gweld am 47 mlynedd.

Dywedodd y cerddor, sydd wedi bod yn un o ffigyrau mwyaf blaenllaw'r sin gerddorol yng Nghymru ers y 1960au, ei fod wedi ail gynnau fflam ei berthynas gyda Liz wedi i'r ddau fynd am bryd o fwyd.

Mewn cyfweliad a ddarlledwyd ar Radio Cymru nos Fercher, dywedodd fod hyn yn gyfle i agor pennod newydd yn ei fywyd.

Ei nod yng Nghanada yw canolbwyntio ar baentio ac ysgrifennu llyfr am ei blentyndod.

'Dim wedi newid'

Cafodd y brodor o Solfa, Sir Benfro, ei holi yn un o'i gyngherddau ffarwel ym Maenclochog.

Wrth siarad am ei berthynas newydd, dywedodd nad oedd wedi gweld Liz ers degawdau.

"Roedd hi wedi siarad gyda ffrind i ffrind, fe gafodd fy rhif ffôn ac fe aethon ni allan am bryd o fwyd," meddai.

"Roedd hi'n amlwg ei bod hi'n dal gyda diddordeb ynddo i ac fe wnaethon ni ail gynnau'r fflam - roedd e fel petai dim byd wedi newid."

Ychwanegodd ei fod yn gweld y symudiad i Ganada fel cyfle i baentio, ac mae cynllun i gynnal arddangosfa o'i waith yn Oriel Plas Glyn y Weddw yn Llanbedrog yn 2012 pan fydd yn cyrraedd oed yr addewid.

"Roeddwn i'n arfer paentio lot o luniau o Solfa ond nawr dwi'n neud portreadau.

"Dwi'n credu bod portreadau yn bwysicach na thirluniau achos mae pobl yn marw.

"Mae bywyd yn newid pan y'ch chi'n byw gyda rhywun newydd, ac mae hynny'n si?r o greu syniadau - dyna lle dwi'n cael syniadau, trwy fyw fy mywyd.

"Dwi byth yn eistedd a meddwl 'fe wna i sgrifennu can am hyn' - mae syniadau'n dod i mi'n naturiol."

Er y bydd yn byw 5,000 o filltiroedd i ffwrdd yn Vancouver, ychwanegodd Meic mai Cymro fydd e am byth.

• Bydd y cyfweliad, a ddarlledwyd ar Radio Cymru nos Fercher, yn cael ei ail-ddarlledu am 5:00pm ddydd Sul, Ionawr 23 ac mae modd gwarando ar yr iPlayer.




Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific