British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Iau, 20 Ionawr 2011, 07:27 GMT
Ffyrdd Cymru yw'r gorau, medd arolwg

Twll yn y ffordd ar ôl y tywydd oer diweddar
Er rhai problemau, ffyrdd Cymru ymhlith y gorau yn ôl yr adroddiad

Mae arolwg newydd yn dweud mai ffyrdd Cymru yw'r gorau yn y DU o safbwynt trwsio ffyrdd, gwaith ffordd, ymylfeini a marciau ffyrdd.

Roedd arolwg gan y gymdeithas foduro'r AA yn barnu ffyrdd 10 o ranbarthau Prydain mewn 12 categori.

Yn ogystal â dod i'r brig mewn pedwar categori, Cymru oedd y gorau ar y cyfan.

Roedd Cymru hefyd yn y tri uchaf mewn sawl categori arall, sef gwaith haearn ar ffyrdd, llwybrau anwastad, arwyddion ffyrdd a cherbydau wedi'u parcio.

Yr unig gategori lle 'roedd Cymru yn siomedig oedd dreiniau wedi eu blocio.

'Buddsoddiad'

CATEGORĎAU'R AROLWG
Tyllau ar ffyrdd
Gwaith trwsio
Ymylfeini
Gwaith haearn
Gwaith ffordd
Llwybrau anwastad
Dreiniau wedi'u blocio
Cerbydau wedi parcio'n wael
Sbwriel
Baw ci
Arwyddion ffyrdd
Marciau ffyrdd

Paratowyd yr arolwg drwy holi 1,912 o aelodau'r AA yn ystod yr hydref, a gofyn iddyn nhw nodi sylwadau am y 12 categori o fewn dwy filltir i'w cartrefi.

Dywedodd Llywydd yr AA, Edmund King: "Fe fyddwn yn rhannu'r wybodaeth o'r arolwg gyda'r awdurdodau priffyrdd lleol er mwyn cefnogi ein galwad am fwy o fuddsoddiad mewn strydoedd a llwybrau lleol.

"Mae esgeuluso'r materion yma yn cael effaith sylweddol ar sut y mae pobl yn teimlo ar le y maen nhw'n byw.

"Mae'r canlyniadau hefyd yn dangos sut y gall cymunedau helpu eu hunain drwy beidio taflu sbwriel a glanhau baw ci.

"Roedd hi'n syndod i mi weld yn yr arolwg cymaint o gwpanau diod sy'n cael eu taflu ar ein priffyrdd.

"Efallai ein bod yn gymdeithas sychedig, ond does dim esgus dros daflu sbwriel."



HEFYD
'Tyllau'n fwy o broblem'
05 Ion 11 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific