Y llynedd roedd Harris Pye yn atgyweirio rhannau o long Saga Pearl II yn y dociau yn Abertawe
|
Mae 50 o swyddi'n diflannu am nad yw cwmni wedi llwyddo i adnewyddu trwydded. Dywedodd Chris Trigg, Cyfarwyddwr Ariannol Harris Pye, y bydden nhw'n tynnu allan o Ddociau Abertawe erbyn Ebrill 1. "Ry'n ni'n gorfod symud," meddai. "Does dim modd i ni newid y sefyllfa." Fe fyddai peiriannau gafodd eu gosod yn y dociau'n cael eu symud, meddai. "Ry'n ni'n siomedig iawn," meddai. Dywedodd y cwmni eu bod wedi gwario £500,000 yn y dociau ac ar un adeg yn bwriadu gwario £2 miliwn ychwanegol. Roedd cynlluniau Harris Pye yn cynnwys adleoli eu pencadlys byd-eang i'r dociau ar gost o £5 miliwn. 200 Yn ôl eu gwefan, roedden nhw'n cyflogi 200 o bobl dros dro yno gan gynnwys gweithio ar adfer llong bleser Saga Pearl II ar gost o £20 miliwn. Yn y cyfamser, mae cwmni wedi ennill cytundeb i ddatgymalu ac ailgylchu llongau yn nociau sych Abertawe. Fe gyhoeddodd cwmni Swansea Drydocks Cyf yn 2010 y bydden nhw'n buddsoddi dros £4 miliwn yn y busnes, gan greu 80 o swyddi. Ym mis Tachwedd fe apeliodd y cwmni yn erbyn penderfyniad Cyngor Sir a Dinas Abertawe i wrthod cais ar sail eu bod angen caniatâd cynllunio. Ond mae wedi dod i'r amlwg bod y cwmni wedi ennill yr apêl. Mae Cymdeithas Porthladdoedd Prydain, sy'n gyfrifol am borthladd a dociau Abertawe, yn dweud eu bod yn croesawu'r penderfyniad. "Rydym yn falch bod penderfyniad wedi ei wneud ac mae'n caniatáu i ni nawr ddatblygu'r safle ar gyfer gwaith cynnal a chadw yn ogystal â diogelwch y gwaith ailgylchu," meddai'r llefarydd.
|