British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Mawrth, 18 Ionawr 2011, 16:33 GMT
Trafod cau ysgolion cynradd gwledig Powys

Ysgolion cynradd
Yn wreiddiol, roedd y mater i fod i gael ei drafod y flwyddyn nesaf

Mae cynghorwyr Powys yn ceisio barn y cyhoedd ynglŷn â chau ysgolion cynradd lle mae llai na 30 o ddisgyblion.

Dywedodd AS Maldwyn, Glyn Davies, ei bod hi'n "ddiwrnod tywyll" ac y gallai hyn arwain at ddinistrio system ysgolion cynradd yn y sir.

Yn wreiddiol, roedd y mater i fod i gael ei drafod y flwyddyn nesaf.

Mae'r cynlluniau'n rhan o ad-drefnu ysgolion cynradd ac uwchradd yn y sir.

Eisoes mae'r cyngor wedi penderfynu bod "pedwar o adnoddau modern" yn lle 10 ysgol gynradd yn ardal Ystradgynlais.

"Dwi'n deall bod y cyngor yn wynebu penderfyniadau ariannol anodd," meddai Mr Davies.

"Ond alla i ddim cefnogi cynllun allai arwain at ddinistrio strwythur yr ysgolion cynradd."

Pob achos

Dywedodd fod angen rhoi ystyriaeth fanwl i bob achos unigol.

"Dwi ddim yn gallu cofio diwrnod mor ddu yn hanes addysg yn Sir Drefaldwyn."

Dywedodd David Jones, sy'n gyfrifol am addysg ym Mhowys, fod y cyngor yn ymrwymedig i ddarparu'r adnoddau a'r addysg orau drwy foderneiddio ysgolion.

"Rydym eisoes wedi dechrau'r broses yn Ystradgynlais ... ac yn bwriadu parhau â hyn drwy'r sir.

"Mae'n anochel bod nifer y disgyblion yn gostwng ond mae angen paratoi ar gyfer y genhedlaeth nesaf."

£220m

Ers 2008 mae'r cyngor wedi cau pum ysgol gynradd wledig ac wedi adeiladu tair newydd.

Ym mis Rhagfyr fe bleidleisiodd cynghorwyr Powys o blaid £220 miliwn oddi wrth Lywodraeth y Cynulliad i gefnogi cynllun 15 mlynedd o hyd ar gyfer addysg gynradd ac uwchradd.

Fe fyddai rhaid i'r sir ddod o hyd i £94 miliwn.



CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific