British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Mawrth, 18 Ionawr 2011, 11:13 GMT
Pont newydd i hen reilffordd i groesi ffordd osgoi

Alun Jones gyda Clare Britton o Reilffordd Ffestiniog
Alun Jones gyda Clare Britton o Reilffordd Ffestiniog

Mae'r gwaith peirianyddol wedi cychwyn i godi pont reilffordd newydd a fydd yn caniatáu i Reilffordd Ffestiniog groesi ffordd osgoi newydd.

Fe fydd y bont yn cludo'r trên stêm hanesyddol dros Ffordd Osgoi Porthmadog ym mhentre' Minffordd.

Mae cwmnïau Balfour Beatty a Jones Bros Civil Engineering yn cydweithio ar godi'r ffordd osgoi £35 miliwn rhwng Tremadog, Porthmadog a Minffordd ar ran Llywodraeth y Cynulliad.

Mae staff Rheilffordd Ffestiniog wedi symud signalau ar ran o'r cledrau sy'n dyddio'n ôl i 1835 er mwyn cychwyn cloddio 20 troedfedd i lawr i lefel y ffordd newydd.

Mae disgwyl y bydd y cledrau newydd ar agor i'r cyhoedd ym mis Mawrth wedi i'r gwaith gael ei gwblhau.

Cydweithio

Cafodd gwaith dros dro ar gyfer gosod y bont ei wneud ar y safle ac fe fydd y bont yn cael ei gosod ar ei safle terfynol pan fydd y gwaith cloddio wedi ei gwblhau.

Dywedodd Alun Jones, swyddog cysylltiadau cyhoeddus ar gyfer datblygiad y ffordd osgoi, bod y bont yn garreg filltir yn y cynllun.

"Hoffem ddiolch i bawb yn Rheilffordd Ffestiniog am eu cydweithrediad ac amynedd wrth i'r gwaith gael ei wneud.

"Rydym yn gweithio i sicrhau mai ychydig iawn o anghyfleustra, os o gwbl, sydd 'na i'r rheilffordd arbennig yma."

Dywedodd bod y gwaith ar y ffordd yn mynd rhagddo ac mae disgwyl i ran o'r ffordd ger Tremadog gael ei hagor i ddefnyddwyr erbyn canol y flwyddyn.

Fe fydd y ffordd yn agored yn llwyr i'r cyhoedd erbyn dechrau 2012.



HEFYD
Cychwyn codi ffordd osgoi
16 Rhag 09 |  Newyddion
SÍl bendith i ffordd osgoi
10 Meh 09 |  Newyddion
Ffordd osgoi: 'Lladd busnes'
26 Gorff 10 |  Newyddion
Trysorau wrth godi ffordd osgoi
22 Gorff 10 |  Newyddion
Taith gyntaf llawn rheilffordd
30 Hyd 10 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific