British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Mawrth, 18 Ionawr 2011, 18:21 GMT
Tri wedi'u lladd ar ôl damwain ar yr M4

Thomas Padden, 20, a Louise Evans, 23
Bu farw Thomas Padden, 20, a Louise Evans, 23, ond mae eu babi Logan wedi goroesi

Mae'r heddlu'n apelio am wybodaeth ar ôl i dri o bobl, oedd ar eu ffordd yn ôl o wyliau ym Moroco, gael eu lladd ar draffordd yr M4.

Fe ddigwyddodd y ddamwain am 11.30pm nos Lun.

Cafodd Louise Evans, 23 oed, ei phartner 20 oed, Thomas Padden - oedd yn cael ei adnabod fel Tom - a thad Mr Padden, Steve Padden, 56 oed, eu lladd.

Roedd y tri yn dod o Borthcawl.

Aed â dynes 51 oed, Suzanne Padden, mam Tom, a babi chwe mis oed, Logan Padden, i Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd gydag anafiadau llai difrifol.

Maen nhw mewn cyflwr sefydlog.

Ailagor

Roedd y ddamwain ar y lôn orllewinol rhwng Cyffordd 32 Coryton a Chyffordd 33 Gorllewin Caerdydd.

Bu'n rhaid cau'r lôn ddwyreiniol am gyfnod ond fe wnaeth y ddwy lôn ailagor toc wedi 8am.

"Rydym yn awyddus i siarad ag unrhyw un welodd y ddamwain neu unrhyw un yrrodd heibio yn fuan wedyn," meddai'r Sarjant Louise French o Uned Blismona Ffyrdd Heddlu'r De.

"Ac rydym am wybodaeth oddi wrth unrhyw un welodd gar Peugeot 406 coch cyn y ddamwain."

Dywedodd yr heddlu fod y crwner wedi cael ei hysbysu a bod plismyn cyswllt yn rhoi cefnogaeth i'r teuluoedd.

Dim ond un car oedd yn y ddamwain.

Dylai unrhyw un â gwybdoaeth ffonio'r heddlu ar 101, 029 2063 3438 neu Taclo'r Tacle ar 0800 555 111.



CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific