British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Llun, 17 Ionawr 2011, 17:14 GMT
Airbus: 'Dyfodol gwell'

Awyren Airbus A320
Dywedodd Airbus ym Mrychdyn y byddai'r cytundeb yn diogelu swyddi ac yn golygu mwy o swyddi wrth i'r gwaith gynyddu o fewn blynyddoedd

Roedd y llynedd yn flwyddyn well o lawer i gwmni Airbus, mae'n ymddangos.

Unwaith eto fe ragorodd ar Boeing o ran nifer yr archebion am awyrennau newydd ac yn ystod y flwyddyn fe gynhyrchwyd mwy o awyrennau nag erioed o'r blaen.

Dywedodd swyddogion y cwmni yn Sir y Fflint fod dyfodol y gweithwyr yno yn edrych yn well nag yr oedd flwyddyn yn ôl.

Roedd datganiad y cwmni yn ei gynhadledd newyddion flynyddol yn Ffrainc ddydd Llun.

Cafodd y cwmni'r archeb unigol fwyaf erioed yn hanes hedfan masnachol ar gyfer 180 o awyrennau A320 yr wythnos diwethaf.

Mae adenydd yr awyrennau yn cael eu gwneud yn ffatri'r cwmni ym Mrychdyn.

Dywedodd Airbus y byddai cynnydd o 33% o ran cynhyrchu adenydd yr A320 eleni - a gwaith adeiladu adenydd y superjumbo A380 25% yn fwy na llynedd.

Arloesi

Eleni mae adeiladu adenydd y model A350 newydd yn dechrau.

Yn y cyfamser, mae'r staff ym Mrychdyn yn arloesi mewn datblygu technoleg gyfansawdd i greu adenydd yr A350 a disgwylir yr archeb gyntaf yn 2013.

Dywedodd Airbus y byddai'r adenydd cyntaf yn cael eu hadeiladu eleni gyda'r awyren gyntaf yn cael ei hadeiladu erbyn diwedd y flwyddyn.

Y bwriad yw gwneud profion hedfan o 2012 ymlaen.

Yr wythnos diwetha dywedodd cwmni IndiGo, cwmni hedfan rhad mwya India, eu bod wedi arwyddo Memorandwm Dealltwriaeth i brynu 180 o awyrennau A320.

Dywedodd llefarydd o ffatri Airbus ym Mrychdyn ar y pryd y byddai'r cytundeb yn diogelu swyddi ar y safle ac yn golygu mwy o swyddi wrth i'r gwaith ar y cytundeb gynyddu o fewn blynyddoedd.




Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific