British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Llun, 17 Ionawr 2011, 14:21 GMT
Teyrngedau i athro 'talentog iawn'

Ben Muskett gyda'i bartner, Ambra Finotello
Ben Muskett gyda'i bartner, Ambra Finotello

Mae teyrngedau wedi eu rhoi i athro cerdd 25 oed "talentog iawn ac uchel ei barch," fu farw mewn damwain ffordd yng Ngwynedd nos Wener.

Cafodd Ben Muskett ei ladd yn ei gar ar yr A470 yn Ganllwyd ger Dolgellau tua 10pm.

Yn wreiddiol o Fethesda, roedd wedi symud i fyw i Lanidloes gyda'i bartner, Ambra Finotello, ac ar ei ffordd adre' pan ddigwyddodd y ddamwain.

Roedd yn Bennaeth Cerddoriaeth Ysgol Uwchradd Llanidloes.

Mae'r teulu wedi rhoi teyrnged i'w mab oedd yn "orlawn o fywyd, egni a brwdfrydedd."

Dywedon nhw y byddai "gwacter enfawr" ym mywydau pobl.

"Rhagoriaeth oedd ei nod beth bynnag oedd y dasg dan sylw ac roedd ei angerdd yn amlwg fel cerddor ac fel athro," meddai'r teulu.

"Roedd yn fab ac yn frawd llawn cariad ac wedi ymroi yn llwyr i'w bartner, Ambra."

Cafodd ei addysgu yn Ysgol Friars, Bangor, cyn astudio cerddoriaeth ym Mhrifysgol Manceinion.

Ar ôl cwrs dysgu ym Mhrifysgol Bangor fe ddaeth yn Bennaeth Cerdd Ysgol Uwchradd Llanidloes.

Ergyd fawr

Dywedodd prifathro'r ysgol, Darren Davies, fod Mr Muskett â gallu "naturiol a diffuant i ysbrydoli disgyblion".

"Roedd Ben yn aelod staff hynod dalentog, uchel ei barch, yn frwdfrydig, yn weithiwr caled ac yn boblogaidd gyda disgyblion, staff, rhieni, llywodraethwyr a'r gymuned ehangach.

"Cafodd ei ddyrchafu'n bennaeth yr adran gerdd yn fuan ar ôl dechrau gyda ni a 'does gen i ddim amheuaeth y byddai wedi symud ymlaen yn bellach."

Ychwanegodd fod y newydd am ei farwolaeth yn ergyd fawr i'r ardal ac y byddai'n cael "effaith ddifrifol ar yr ysgol a'r gymuned am flynyddoedd i ddod."

Yn ogystal â dysgu yn Llanidloes roedd hefyd yn rhoi gwersi piano yng Nghanolfan Gerdd William Mathias yng Nghaernarfon.

'Cerddor arbennig'

Dywedodd Cyfarwyddwr Artistig y ganolfan, Sioned Webb, fod Ben yn "dân gwyllt cerddorol, yn seren wib, yn gorwynt ...

"Mae'r golled yn un anferth a phersonol i mi ond nid gormodiaith chwaith yw dweud bod Cymru wedi colli un o gerddorion mawr y dyfodol.

"Rwyf wedi dilyn ei yrfa gyda'r diddordeb mwya ac wedi ei weld yn datblygu yn gerddor arbennig, yn bianydd a thiwtor o'r safon uchaf ac yn ddyn ifanc cywir a chryf ei ddaliadau.

Fe ddigwyddodd y ddamwain yn Ganllwyd, ger Dolgellau, nos Wener

"Roedd ganddo gymaint o gynlluniau. Roedden ni yn y broses o sefydlu lloeren fach i'r Ganolfan Gerdd yn Llanidloes pan ddigwyddodd hyn - syniad Ben.

"Roedden ni wedi dechrau rhoi cynlluniau at ei gilydd ar gyfer trefnu cyngerdd ym mis Mehefin gyda'n disgyblion piano a chwarae ychydig o ddeuawdau hefo'n gilydd.

"Ar y ffordd adref i'w gartref newydd yn Llanidloes oedd o pan ddigwyddodd hyn. Mae'n cydymdeimlad llwyraf gyda'r teulu."

Mae cwest i farwolaeth Mr Muskett wedi ei agor a'i ohirio.

Does dim cadarnhad hyd yn hyn ynglŷn â sut y digwyddodd y ddamwain.

Mae ditectifs yn gofyn i unrhyw un â gwybodaeth am y ddamwain i gysylltu â Heddlu'r Gogledd ar 101, neu gysylltu â Taclo'r Tacle ar 0800 555111.



HEFYD
Un person wedi marw wedi damwain
15 Ion 11 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific