British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Llun, 17 Ionawr 2011, 07:49 GMT
Ambiwlansys 'yn gorfod aros'

Ambiwlans
Yn ôl ffigurau fe dreuliodd ambiwlansys dros 80,000 awr yn aros y ty allan i ysbytai dros y ddwy flynedd ddiwetha'

Mae ffigyrau sydd wedi dod i law Democratiaid Rhyddfrydol Cymru'n awgrymu fod gweithwyr ambiwlans wedi treulio 80,000 o oriau'n aros y tu allan i ysbytai yn ystod y ddwy flynedd ddiwetha'.

O dan dargedau, ddylai hi ddim cymryd mwy na 20 munud i drosglwyddo cleifion i staff ysbyty.

Ond mae'r Democratiaid Rhyddfrydol yn dweud bod y ffigurau sydd ganddyn nhw'n awgrymu fod miloedd o oriau wedi eu colli wrth i ambiwlansys orfod aros.

Yn ôl Llywodraeth y Cynulliad, mae'r rhan fwyaf o gleifion yn cael triniaeth ac yn cael eu trosglwyddo o fewn amser priodol.

Rhwng mis Ionawr 2009 a mis Hydref 2010, roedd yr achosion lle'r oedd angen mwy na 20 munud i drosglwyddo claf yn cyfateb i gyfanswm o dros 80,400 o oriau - neu 3,350 diwrnod.


Rwy'n gwybod fod y bobl yn yr ambiwlansys a'r nyrsys a phawb yn gweithio'n galed, ond 'da ni'n pryderu am faint o amser mae'n ei gymryd i drosglwyddo claf
Eleanor Burnham AC, Gogledd Cymru

Roedd y cyfanswm yn 15,909 awr yn Ysbyty Brenhinol Gwent yng Nghasnewydd, tra daeth Ysbyty Treforys yn Abertawe yn ail gydag 11,926 o oriau, o flaen Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd gyda 9,986 awr.

Mae'r ffigurau gan Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Ambiwlans Cymru hefyd yn cynnwys tri o ysbytai yn Lloegr.

'Pryder mawr'

Mae'r gwasanaeth yn amcangyfrif fod y gost am golli pob awr yn £76, gan olygu y byddai'r cyfanswm o amser sy'n cael ei golli yn aros yn cyfateb i £6.1m.

Yn ôl Aelod Cynulliad y Democratiaid Rhyddfrydol dros Ogledd Cymru, Eleanor Burnham, mae'r canlyniadau yn "bryder mawr".

"Rwy'n gwybod fod y bobl yn yr ambiwlansys a'r nyrsys a phawb yn gweithio'n galed, ond 'da ni'n pryderu am faint o amser mae'n ei gymryd i drosglwyddo claf," meddai.

Mae pob claf yn cael eu blaenoriaethu o ran anghenion clinigol, gyda'r rhan fwya' o gleifion yn cael eu gweld, eu trin a'u trosglwyddo neu eu rhyddhau o fewn amser priodol
Llefarydd ar ran Llywodraeth y Cynulliad

"Mae gen i un enghraifft - un person wedi cael trawiad ar y galon ac wedi aros am bedair awr mewn ambiwlans. Mae'n bryder mawr os 'da chi'n sôn am eich mam neu'ch nain er enghraifft. 'Da chi eisiau'r gofal gorau."

"Y trosglwyddiad ydy'r broblem," ychwanegodd. "Ond mae'r broblem honno yn cael effaith domino. Os oes gennych chi bobl yn yr ysbyty ddylai fod yn rhywle mwy addas, dyna beth yw'r effaith domino a 'da ni'n pryderu'n fawr iawn bod y rheolaeth ddim yn hollol iawn ar hyn o bryd."

'Pwysau parhaol'

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth y Cynulliad fod adrannau o dan "bwysau parhaol".

"Mae'n rhaid i ni gofio fod y gwasanaeth ambiwlans yn derbyn dros 25,000 o alwadau brys pob mis, gyda'r mwyafrif yn arwain at gludo claf i adran frys," meddai.

"Yn anffodus mi fydd 'na adegau pan bod dalfa wrth drosglwyddo'r claf i staff ysbyty."

Ychwanegodd: "Mae 'na waith sylweddol wedi'i wneud i gwtogi ar yr oedi ac rydym ni'n gweithio gyda byrddau iechyd ac Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Ambiwlans Cymru i sicrhau bod 'na welliannau eto.

"Mae pob claf yn cael eu blaenoriaethu o ran anghenion clinigol, gyda'r rhan fwya' o gleifion yn cael eu gweld, eu trin a'u trosglwyddo neu eu rhyddhau o fewn amser priodol."



HEFYD
Bwrdd iechyd yn ymddiheuro
21 Rhag 10 |  Newyddion
Ambiwlans: Cymru ar ei hôl hi
10 Meh 10 |  Newyddion
Ambiwlans: 'Angen trefn newydd'
12 Medi 09 |  Newyddion
999: Methu'r targed unwaith eto
07 Ion 09 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific