British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Sadwrn, 15 Ionawr 2011, 12:50 GMT
ApÍl am straeon caru o'r brifwyl

Maes yr Eisteddfod
A ydach chi wedi canfod eich cymar yn yr Eisteddfod?

A gawsoch chi hyd i gariad ar faes yr Eisteddfod?

Os mai "do" yw'r ateb yna mae'r Brifwyl am glywed gennych chi gyda Dydd Santes Dwynwen ar ein gwarthau.

Os fydd eich atgofion rhamantus yn llwyddo i roi gwen ar wyneb y genedl - neu ddeigryn yn eu llygaid efallai - yna fe allech ennill pryd o fwyd rhamantus yn y bwyty ar y Maes yn Wrecsam eleni - pryd i ddau wrth gwrs!

Ai mewn gig ar Faes B y daethoch chi a'ch cariad ynghyd? Oedd y ddau ohonoch chi'n cystadlu yn erbyn eich gilydd ar lwyfan y Pafiliwn? A newidiodd yr Eisteddfod eich bywyd chi?

Archif

Dyna'r math o straeon fydd yn pentyrru ar ddesg Prif Weithredwr yr Eisteddfod, Elfed Roberts, dros yr wythnosau nesaf.

Dywedodd: "Mae'n sicr bod nifer o bobl wedi cyfarfod eu cymar yn yr Eisteddfod dros y blynyddoedd, gyda chynifer o bobl o bob rhan o Gymru a thu hwnt yn dod ynghyd i gymdeithasu.

"Ein bwriad drwy ofyn am eich atgofion a'ch straeon yw ychwanegu at ein harchif atgofion sy'n cael ei chreu fel rhan o ymgyrch Dathlu 150 yr Eisteddfod, er mwyn creu archif fyw o atgofion am ŵyl Flaenaf Cymru."

Mae'r Eisteddfod wedi creu ffurflen atgofion arlein ar eu gwefan , ond gallwch ychwanegu'ch atgofion hefyd ar wefan Casgliad y Werin.

Bydd rhai o'r atgofion yn cael eu cyhoeddi yn ystod y flwyddyn ac mae croesi i chi yrru llun i mewn gyda'ch stori.

Eleni cynhelir yr Eisteddfod Genedlaethol yn Wrecsam a'r Fro ar dir Fferm Bers Isaf ger Ffordd Rhuthun rhwng Gorffennaf 30 ac Awst 6.



CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific